Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR AEWEINYDD. Cyf. III, Rhif 81. HYDREF, 1880. Pris Ceiniog. JOB I- 1. Math o rainant (romance) yw llyfr Job; alegori yw ei fodolaeth fel person; ac anwiredd caboledig yw yr hanes adroddir aui ei gyfoeth anferth, ei dywydd blin, colliadei gyfoeth, angen truenus ei blant, yn nghyd ag ymddygiad annynol ei gyfeillion tuag ato Dyna ddywedir gan rai dynion am y llyfr hwn a'i gynnwysiad. Yniae o bwys i ddynion ydynt yn credu rod yr holì Ysgrythyr wedi ei rhoddi o dan Ddwyfol Ysbiydoliaeth i wybod yn sicr, ac i gael syniadau hollol glir am berthynas y llyfr hwn a llyfrau ereill y Beibl. Ai dammeg yw y llyfr hwn? Ai alegori yclyw ? Y mae o bwys gwybod. («.) Y peth cyntitf ddygir ger ein bron yw y ffaith syml o'i fodolaeth, a thuedd flaenaf yr oll o'r hanes yw ein dwyn i gredu nad oes yn yr oü o'r llyfr ddim ond adroddiad cywir o'r hyn mewn gwirionedd a ddygwyddodd mewn rhyw wlad neilldnol, ac mewn rhyw oes arbenig. Ni cheir yn y ddwy bennod gyntaf, yn nghyd à rhan o'r ddiweddaf yn y llyfr, ddim ond adroddiad syml aìianesyddo!. Gwir fod y llyfr hwn, gan mwyaf, yn gwísgo arddull farddonol, ond ni cheir yn y darnaii a nodwyd ddim ond adroddiad hanesyddol rhyddieithol hollol. (ö.) Edrychir ar fodolaeth Job fel person gan yr Ysgrifenwyr Ysbrydoled'ig fel ffaith mewn rhagor nag un man. Yn Ezec. xiv. Ì4., dywedir, " Pe byddai yn ei chanol y tri wyr hyn, Noah, Daniel, Job, hwynt-hwy yn eu cyfiawnder a acliubent eu henaid eu hun yn unig, medd yr Arglwydd Dduw." Os person ffugiol yw Job'yma, paham lai y ddau ereill hefyd. Yn Jer. xv. 1, sonir am Moses a Samuel fel y canlyn,—" A dy;wedodd yr Ar- glwydd, Pe safai Moses a Samuel ger fy mron, etto ni byddai fy serch ar y bobl yma." Os ffug oedd y personau blaenaf y sonir am danynt, paham lai yr olaf etto. Yn Iago v. 11, cyfeirir ato