Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR AEWEINYDD. Cyf. in., Rhif 22. IONAWR, 1880. Pbis Cbiriog. DYLANWAD YK YSBRYD YN EI BER- THYNAS A MODDION A LLWYDDIANT OREFYDD. Y mab yr Arglwydd Iesu, a gweinidogaeth yr ysbryd, yn ddech- reuad cyfnod néwydd a mwy perffaith yn hanes yr eglwys. 0 dan yr Hen Destainent, y ddaear a'i phethau oedd yn dylanwadu fwyaf arni—pethau gweledig a theimladwy. Addewidion am fendithion tymhorol yn benaf oeddynt addewidion yr hen gyf- ammod. Yr oedd yn perthyn i'r oruchwyliaeth hono ei chyssegr bydol, ei defodau cnawdol, a'i mynydd teimladwy. Dyma'r pethau oeddynt yn taro cyíiwr mabaidd yr eglwys : " Felly ninau hefyd (meddai Paul), pan oeddym fechgyn, oeddym gaethion dan wyddorion y byd ;" neu yn llawer gwell, " o dan wersi cyn- taf dysgeidiaeth." Yn y wyddor—yn y llyfr cyntaf yr oedd eg- lwys yr hen gyfammod. Cyfaddaswyd y gwersi i ateb i'w sef- ylll'a blentynaidd, yn bur debyg i'r cynllun effeithiol a arferir yn llawer o ysgolion dyddiol ein gwlad—dysgu drwy arluniau. Y mae gweled y darlun yn rhoddi i'r plant syniad chrach am y gwrthddrych y traethir am dano. Cynllun cyffelyb oedd eiddo yr Hen Destament; " Cysgod daionus bethau a fyddent, ac nid gwir ddelw y pethau " oedd gan y gyfraith. Rhyw aîbum yn llawn arluniau arwyddocaol oedd Uyfr y ddeddf seremonio!. Wrth olwg ei llygaid ac wrth deimlad y barnai ac y rhodiai hi i fesur mawr. Ond yn esgyniad yr Arglwydd Iesu a dyfodiad yr Ysbryd Glan, codwyd yr eglwys i dir llawer iawn uweh. Ymae yr arluniau yn cael eu gosod o'r neilldu, a chyfundrefn o addysg mwy perffaith yn dyfod i mewn. Cyfammod gwell, addewidion gwell, pethau gwell, Cyfryngwr gwell, trwy dabernacl mwy a pherffeithiach—gweinidogaeth fwy rhagorol. Rhagwelai Duw