Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWEINYDD. Cyf. II., Ehif 17. AWST, 1879. PM8 Ceimog Y CNAWDOL A'R YSBRYDOL. GAN DR. TIIOMAS, «LIVERPOOL. " A myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megys wrth rai jsbrydoJ, ond niegis rbai cnawdol; megia wrtb rai bacb yn Nghrist."—1 Cor. iii. 1. Nid oes nn gwirionedd yn cael ei ddysgu yn eglurach yn y Beibl nâ bod gwahanol raddau yn mysg y saint. Y maent yii gwahan- iaethu yn eu galluoedd a'u gwybodaeth yn feddyliol, ac yn gwa- haniaethu hefyd mewn crefydd a graddau eu santeiddrwydd. Y mae un mewn cymdeithas wastadol â Duw, ei "serch ar y pethau sydd uchod," a'i " yrnarweddiad yn y nefoedd," ac yn aml yn cael y fath Iwynhad o Dduw, fel na wyr yn iawn "pa ûn ai yn y coríf ai allan o'r coríf y mae." Y ìnae y llall a'i feddwl mor bwl, ei syniad mor gnawdol, a'r fath ddaearoldeb yn ei serchiadan, fel mai anamlwg iawn arno yw nodau egluraf y creadur newydd. Y mae y ddau yma yn cael eu darlunio g«in Paul fel "rhai ysìtrydol" a "rhai cnawdol." Rhai cnmudol. Y rhai isaf mewn crefydd,—y rliai y mae yn " rhaid dysgu iddynt beth yw egwyddorion dechreuad ymadrodd- ion Duw ;" " rhai y mae yn rhaid iddynt wrth laeth ac nid bwyd " —babanod yn Nghrist; "rhai bach yn Nghrist." Y roHe gwa- haniaeth hefyd rhwng y " rhai cnawdol " a'r "dyn anianol." Sonia Paul am hwnw—ond y dyn diailenedig ydyw y dyn anianol, un y mae ei holl synied yn elyniaeth yn erbyn Duw : " Canys dyn anianol nid yw yn derbyn y pefchau sydd o Ysbryd Duw." Y mae mewn gelyniaeth yn erbyn Duw. Ond y mae y dyn cnawdol yn Nghr^ist, ond mai un " bach yn Nghrist" ydy w. Y mae holl han-