Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR AEWEINYDD. Oyf. ii., RMf 13.] EBEILL, 1879. [Pris Oeiniog. GWAITH Y MAB A GWAITH YR YSBRYD GLAN YN NHREFN PRYNEDIGAETH. [gan y parch. j. r. davies, trewilliam.] NID oes dim y gwyddom rywbeth am dano, nad ydym yn fwy cyfarwydd a'i efíeithiau, na bywyd. Gwelwn ef yn gwênu arnom yn mhob blodeuyn ar y ddôl, ac yn ysgogi o'n cwmpas yn mliob aderyn yn yr awyr, a phob anifail ar y maes; ac o ran hyny, yr ydym yn ei deimlo ynom ein hunain, ac yr ydym mor ofalus o hono, fel y mae yn well genym golli pob peth na cholli y bywyd ei hun. Ac eto, efallai nad oes dim y gwyddoin rywbeth am dano, ac yr ydym yn deall mor lleied arno, a bywyd. Llawer cynyg sydd wedi ei wneyd er ceisio deall beth yw bywyd, ac yn mha le y triga, ond y mae pob ym- drech hyd yn hyn wedi tcrfynu, nid inewn dcall beth yw bywyd, ond mewn llofruddio bywyd, fel y mae y dirgelwch sydd mewn cysylltiad ag ef heb ei ddeall hyd heddyw. Nid oes neb ond awdwr bywyd ei hun yn deall beth ydyw. Y mae gwahanol raddau yn perthyn i fywyd—y bywyd llysieuol, y bywyd anifeil- aidd, a'r bywyd dynol. Y mae llawer o ddirgelwch mewn cy- sylltiad a'r bywyd dỳnol eto, pa un ai yr un elfen sydd yn byw- iochau corff yr anifail ac sydd yn bywiochau corff y dyn. Os felly, rhaid fod yna fywyd arall yn perthyn i'r dyn, na wyr yr anifail ddim am dano ; ac efallai mai o'r fan yma y daeth y tri rhaniad hwnw ar ddyn, sef corff, enaid, ac ysbryd. Enaid, neu yr elfen fyw, sydd i farw gan yr anifail; ac ysbryd, neu elfen bywyd—yr elfen sydd i fyw byth gan ddyn, hèblaw enaid—yr elfeu fyw sydd i farw. Y mae yr anifail yn fyw, ond nid yw yn feddianol ar fywyd. Y mae yn bosibl i'r byw farw (h.y. darfod bodoli), ond am fywyd, y mae Duw wedi trefnu yn natur pethau ei bod yn anmhosibl iddo allu marw, yn yr ystyr o ddarfod bodoli. "Nis gallant farw mwyach." Gallant farw, yn yr ystyr o golli