Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Oyf. ii., Ehif 12.] MAWETH, 1879. [Pris Oeiniog. Y TANGNEFEDDWYB. "Gwyu eu byd y tangnefeddwyr, canys hwy a elwir yn blant i Dduw."— Matt. v. 9. MAE y nodwedd hwn yn dyfod i niewn yn naturiol ar ol purdeb calon. Buasai allan o'i le pe o'i flaen, oblegyd annihosibl i ddyu anmhur byth fwynhau tangnefedd. Mae "y doethineb sydd oddiuchod" yn y lle cyntaf oll "yn bur, f/wedi hyiiy, heddychoW Mae'r tangnefeddwyr yn naturiol dyfu allan o'r "rhai pur o galon." Mae'r nefoedd yn heddychol yn unig am ei bod yn bur ; ac fe fuasai y ddaear byth felly oni buasai i bechod dori i niewn iddi. 'Doedd ddim gobaith am hedd- wch yn nheulu Abraham heb fwrw Ismael allan; ac ni cheir heddwch mewn un galon, na heddwch ar y ddaear, 'chwaith, hyd nes y bwrir yr Ismael hwn—pechod—allan. Purdeb sydd yn cenhedlu tangnefedd. Pan y dywed yr Arglwydd Iesu iddo ddyfod i "fwrw tán a chleddyf ar y ddaear," nid ydym i feddwl fod dim a wnaeth, nac a ddywedodd Efe, yn achos o ryfel, ond achlysur yn unig. Pechod a drygioni ydynt yr unig achos. Byddai yn annheg ynom feio Isaac am yr ymrafael achlysurodd ei bre- senoldeb yn nheulu Abraham ; ysbryd Ismael oedd yr achos, oblegyd un o nodweddau amlycaf "mab yr addewid" oeddhedd- wch. Pan y daeth Mab Duw yn y cnawd, cafodd y "cryf arfog yn cadw ei neuadd, a'r cwbl oedd ganddo mewn heddwch;" ond heddwch gau ydoedd—heddwch y mynydd tanllyd pan ar fwrw ei lava berwedig i gladdu dinasoedd yn fyw. Heddwch twyll- odrus y nos. Ymddangosiad y "gwiroleuni" achlysurodd ýr ymrafael; a rhaid symud pob tywyllwch moesol o'r ddaear cyn y ceir heddwch gwirioneddol arni. " A gwaith cyfiawnder fydd heddwch," &c.—Esau xxxii. 17-18. Crefwn sylw ein darllenwyr at Nodwedd a Braint y tangnefeddwyr.