Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dftpirl î|t( abMtal TEMTIAD CRIST. GAN Y PARCH. J. PRICHARD, BIRMINGHAM. >>r^H5~-^ wz-J MAE rhai esbonwyr yn cyf- yngu y prawf a wnaed ar Grist yn yramgylchiad hwn} i'r tri ymosodiad arno a nodir yn niwedd yr hanes. Ond y mae hyny yn drais amlwg Vj[ â geiriau ysbrydoliaeth. Pe na V buasai o.id yr hanes gan Matthew yn unig i'w ystyried, y golygiad mwyaf naturiol a fuasai fod y temtiad yn cymeryd i mewn holl gyfnod y deugain niwrnod, a bod yr ymosodiad yn y diwedd yn cymeryd ffurf wahanol. Ond y mae geiriau Maic yn eglur :—" Ac efe a fu yno yn y di- ffaethwch ddeugain niwrnod, yn ei demtio gan Satan ; ac yr oedd efe gyda'r gwyllt- filod." Ac y mae geiriau Luc yr un mor eglur :—" Yn cael ei demtio gan ddiafol ddeugain niwrnod." Nid oes ond un golygiad yn bosibl, gellid meddwl, uwch- ben y geiriau, sef fod temtiad Crist yn cynwys holl ystod ei ymneillduaeth i'r di- ffaethwch. Y mae yn anhawdd gwybod pa beth a ailasai arwain neb i farnu yn wahanol, os nad hwyrfrydigrwydd i gredu fod yr Arglwydd lesu wedi ei demtio yn wirioneddol. Fe welir oddiwrth eiriau yr efengylwr Marc fod yr Iesu am ddeugain niwrnod mewn unigrwydd hoîlol, heb ganddo ond y gwylltfilod gydag ef. Os oedd y dyddiau hyny yn ddyddiau o dem- tisiwn, y mae yn canlyn fod y demtasiwn yn cael ei chyflwyno, nid i synwyrau corff- orol yr Iesu, ond i'w feddwl ac ì'w ewyllys. A thybir gan "yr hwn sydd yn wan yn y ffydd " fod hyny yn anmhosibl heb wneyd Crist yn bechadur. A'r unig 'ddiangfa yw cymedroli ychydig — ac nid ychydig chwaith—-ar eiriau yr efengylwyr. Pe gellid sylweddoli y temtiad fel ymdrech ysbrydol i'r Gwaredwr yn gyson â'i sanct- eiddrwydd perffaith, fe ddarfyddai pob tuedd i wneyd yn hyf ar eiriau yr hanes. Ac nid oes dim llai na hyny a wna y tem- tiad yn demtiad gwirioneddol. Hwyrach y byddai yn dd©eth ymbwyllo ychydig ar y pen hwn. Onid ydyw temtasiwn o angenrheid- rwydd yn cynwys fod yn yr hwn a demtir rywbeth a bàr i'r hyn a gyflwynir i'w sylw fod ar ry w gyfrif yn ddymu*nol ganddo ? Er esiampl, aydyw yn bosibl temtio angel âgymborth? "Duw nis gellir ei demtio â drygau." Nid am ei fod yn sanctaidd ; y mae bodau sanctaidd wedi eu temtio a'u gorchfygu gan demtasiwn ; ond oblegid perffeithrwydd ei natur—oblegid ei fod yn anfeidrol uwchlaw pob-diffyg. Ac eto, yn ol un o atebion yr Iesu i'r diafol, y mae modd temtio Duw—nid i bechod, ond—i gosbi pechod ; a hyny oblegid fod gwrth- ryfel cyndyn pechadur yn cyfarfod â rhyw- beth yn Nuw sydd yn ei gymell i gosbi pechod, sef ei gyfiawnder. Ac, i ddisgyn ar unwaith o'r defnydd uchaf o'r gair i'r defnydd mwyaf cyffredin, mynych'y clywir dyn yn dweyd nad yw y ddiod feddwol yn un demtasiwn iddo. Dichon fod hyny yn yr ystyr fanylaf yn wir. Pa un bynag, y mae yn ddealladwy fod yn rhaid cael y mewnol yn gystal a'r allanol i gyfansoddi temtasiwn. Ychwaneger at hyn, fod