Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

abiüM. TEMTIAD CRIST. GAN Y PARCH. J. PRICHARD, BIRMINGHAM. MAE llawer o ddarllenw) r y Testament Newydd wedi bod yn osgoi hanes temtiad Crist yn yr anialwch mewn arswyd. Dichon nad yw holl aelodau yr Ysgol Sabbothol wedi llwyr orchfygu y duedd hon hyd heddyw. Braidd na thybid wrth ymddygiad rhai fod hanes y temtiad, fel pren gwycodaeth da si drwg yn Eden, wedi ei wahardd iddyntgan Dduw. " ......na fwyta o hono ; oblegid yn y dydd y bwytài di o hono, gan farw y byddi farw." Y mae yn oddefol ganddynt edrych ar yr hanes oddidraw, a thynu oddi- wrtho ychydig wersi ymarfcrol. Ond pan eu cymhcllir i lafnrio i'w ddeall fel rhan bwysig o hanes bywyd yr Arglwydd Iesu, y maent yn cilio yn ol mewn " parchedig ofn." Ac fel y gellid disgwyl, y rhai a nodweddir gan deimlad dwfn o barchedig- aeth i'r Gwaredwr sydd fwyaf agored i'r brofedigaeth hon. Nid yw yn anhawdd cyfrif am hyn. Y mae y rhai y mae Iesu Grist iddynt yn " Arglwydd y gogoniant," ac yn obaith eu gogoniant hwythau, yn naturrol hwyrfrydig i gredu ei fod mor debyg iddynt hwy eu hunain ag y mae ystyriaeth ddifrifol o hanes y temtiad yn ei ddangos. Y mae pawb sydd yn credu fod Ie»u Grist yn Fab Duw yn brofiadol o'r anhawsder i sylweddoli ei ddynoliaeth. Gyda mwy neu lai o gymedroliad arno yn | nirgelfa eu calon, y mae dynion duwiol yn j fynych yn darllen yn eu Beiblau yr ym- adrodd :—" Y áyn Crist Iesu." Trwy lafur ysbrydol birfaith—trwy " hardd-deg ym- drech y ffyd'd"—y deuwyd ac y deuir i etifeddu yr holl wirionedd am Berson yr Emmanuel. Ac nid yw mewn un mod'd yn rhyfedd fod y saint yn rhoddi y flaenor- iaeth yn eu profiad i'w Dduwdod. I ddynion wedi eu goleuo gan Ysbryd Duw am d'drwg pechod, y niâe anfeìdrol werth aberth Crist yn fwy pwysig, a chyda hyny yn fwy amgyffredadwy a theimladwy, narr manteision a ddeiîiia oddiwrth sylweddoli ei ddynoliaeth. A phan y teimlir, mewn gwendid, fod yr olaf yn rhwystr i sylwedd- oliad y blaenaf, naturiol yw glynu wrth yr hyn a ystyrir yn fwyaf hanfodol. Y mae y teimlad a bàr i rai betruso uwchben hanes y temtiad, yn deiinlad i'w barchu ; y mae pob credadyn difrifol- yn Nuwdod Crist yn brofiadol o hono. Meddwl mawr am Iesu Grist sydd wrth ei wraidd. Ar yr un pryd, pan y gwelir y teimlal hwn yn sefyll rhwng dyn a rhan bwysig o'r dadguddiad dwyfol am Berson Crist, yr ydys dan demtasiwn i feddwl am Pedr yn ceisio sef) 11 rhwng y Gwaredwr a'r groes. Ac fe all credadyn gvfarch y teimlad hwnw yn ngeiriau Crist wrth Pedr :—" Dos yn fy ol i......canys rhwystr ydwyt i mi ; am ncd wyt yn synied y pelhau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion." Yr oedd Pedr yn meddwl mor fawr am ei A'glwydd fel na allai ddygymod â'r syniad ei fod yn myned i ddioddef. Ond fe fuasai oieddwl mwy am dano yn peri iddo ddywedyd yn ei galon : " Mi a'th ganlynaf i ba le bynag yr elych." Ac yn ddiau, yn ngolwg ceu- nentydd tywyllaf yr efengylau, fe ddywedir am y rhai sydd ganddynt y meddyliau