Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

toniíîi gr §%p\ J&ŵfartM YR ABERTHAU HEDD—OFFRWM ADDUNED AC OFFRWM GWIRFODD. GAN Y PARCH. R, EOBERTS, DOLGELLAU, llR ydys yn gosod y ddau yma raewn cysylltiad â'u gilydd, am nad yw yn bur eglur beth oedd y gwaham'aeth rhyngddynt. Yr oedd rhyw bethau yn gyffredin i'r naill a'r llall ag oedd yn eu gwahaniaethu oddiwrth yr " Offrwra Diolch ;" tra o'r ochr arall yr oedd rhyw bethau yn gyffredin i'r " Offrwm Diolch," a'r " Offrwm Adduned," ag oedd yn eu gwahaniaethu oddiwrth yr " Offrwm Gwirfodd." Pa fodd bynag, y mae yn ym- ddangos fod yr olaf yn cael ei gyflwyno i'r Arglwydd mewn amgylchiadau y byddai y dyn yn gwneuthur rhyw ddeisyfiadau penodol, a hyny yn benaf, feallai, mewn anghaffael. Yr ydym yn cael amrywiol esiamplau ag y gellid meddwl eu bod yn perthyn i'r dosbarth yma. Wedi i Israel gael eu gorchfygu o fiaen Gibeah gan Benjamin, yr ydym yn eu cael yn offrymu " poeth offrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd " (Barn. xx. 26). Pan oedd Saul mewn cyfyngder oherwydd y Philist- iaid yn Michmas, y mae yn galw am " boeth offrwm ac aberthau hedd " (1 Sam. xiii. 9). " Poefch offrymau ac offrymau hedd" oedd yn cael eu hoffrymu gan Dafydd yn llawr dyrnu Arafnah y Jebus- iad, pan Jyr oedd y pla yn dinystrio Israel (2 Sam. xxiv. 25). Ŷ mae yn amlwg oddi- wrth yr esiaraplau hyn, fod ryr " offrwm gwirfodd" yn cael ei gyflwyno mewn cysylltiad âg ymostyngiad mewn cyfyngder, a dymuniad am ymwared oddiwrtho, tra yr oedd yr " offrwm adduned " i gael ei gyf- lwyno ar ol derbyn yr ymwared, ac fel ffrwyth y teimlad ag oedd yn meddianu y dyn yn ei drallod. Ond yr Offrwm Adduned ydyw yr ail yn rhestr yr " aberthau hedd " (Lefit. vii. 16). Y mae yn ymddangos fod hwn wedi ei ordeinio i gyfarfod â meddwl d) n pan y byddai wedi cael ei ddwyn i ryw amgylch- iad neillduoî o gyfyngder ; ac yn ei drallod yn addaw, os gwaredid ef o'r cyfyngder hwnw, y byddai iddo wneuthur rhywbeth allan o'r ffordd gyffredin tuag at wasanaeth y cysegr. Gan fod teimlad o'r fath yma yn gyfryw ag y gallesid disgwyl a fuasai yn naturiol yn codi yn mynwes dyn mewn amgylchiadau felly, yr oedd y Brenin Mawr wedi trefnu llwybr i dderbyn ei "adduned " yn yr " aberthau hedd." Nid yn unig yr oedd Duw yn derbyn " lloi y gwefusau," mewn mawl a diolchgarwch, wedi iddvn gael ei ddwyn drwy amgylchiadau profed- igaethus, ond yr oedd yn disgwyl iddo ddwyn cyfran o'i feddianau i'w chyflwyno yn gysegredig i'w wasanaeth, a'r gyfran hono hefyd ag yr oedd wedi ei haddaw yn ei gyfyngder. Yr oedd adduned mewn amgylchiad feily yn cael ei hystyried bob amser yn rhwymedigaeth ddifrifol. Nid oedd yr hyn a addewid mwyach yn eiddo i'r dyn ei hun ; ac nis gallasai ei atal heb ysbeilio yr Hollalluog, fel y mae ef ei hun yn gosod yn erbyn y genedl ei bod yn gwneyd yn nyddiau Malachi. " Pan addunedech adduned i'r Arglwydd," meddai y Pregethwr, gan gyfeirio yn ddiau at