Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

%öttìci îm ablrothat. ÄBERTHAU HEDD,—OFFRWM DîOLCH. <SAN Y PARCB. R, ROBERTS, BOLGELLAU. R ydym wedi sylwiyn barod fod yr aberthau a'r offrymau o dan y gyfraith yn gysgod daionus bethau a fyddent ; a'u bod hefyd wedi eu hamcanu i wrthweithio dylanwad y byd ar y galon, yn gystal ag yn fantais i'r aberth- wr amlygu ei deimlad tuag at Dduw a'i lywodraeth, yn yr amgyichiadau y byddai ynddynt, Yn awr, y mae y lîurf gysgodol oedd ar holl wasanaeth crefydd o dan yr Hen Oruchwyliaeth wedi diflanu, ond mae yr hyn oedd yn y gwasanaeth hwnw fel moddion gras, i gael dylanwad ar feddwl y dyn duwìol, yn aros yr un raewn rhyw ffurf arno, ac o ran yr angenrheidrwydd am dano, eto, o dan oruchwyliaeth yr eíengyl. Hen ddywediad cyfeiliornus ydyw u fod crefydd yn rhatacho lawer î Gristionogion, o dan y Testament Newydd, nag ydoedd i dduwiolion o dan yr Hen Destament" Drutach o lawer y dylai gael ei theimlo genym ni na chan yr luddewon, oblegid y mae y cylch sydd yn galw am ein hadioni sii yn llawer iawn eangach nag oedd iddynt hwy; yr ydym yn llawn mor agored, os nad yn llawer mwy felly, « ddylanwad y byd ar ein calonau, yn y r amgylchiadau yr ydym ni ynddynt, na^ oeddynt hwy y pryd hwnw; ac y mac haelioni tuag at achos yr Arglwydd wedi ei ordeinio yn foddion gras, o dan yr efengyl fel o dan y ddeddf, ac i atebyr un dibsn ar ein calonau ni, ag ydoedd ar yr eiddynt hwy. Camgymeriad ag yr ydym hefyd yn dueddol i syrthio i'w afae! ydyw, fod gwasanaeth crefydd wedi ei ordeinio yn unig er mwyn talu y warogaeth ddyledus oddiwrthym i'r hwn a'n gwnaeth, a'r hwn sydd wedi datguddio ei hun yn Dduw ein Hiachawdwriaeth, heb olygu fod unrhyw amcan ynddynt i gael dylanwad ar ein calonau ni ein hunain. Y mae hyn boìs amser wrth wraidd 30- hyn a elwir yn ffurf- ioldeb mewn crefydd. Wedi cyflawni y ddefod, myned trwy y gwasanaeth, y mae y dyn yn teimlo ei fod yn cydymffurfio â'r hyn sydd yn rhwyrnedigaeth arno ; heb ystyried nad yw yr hyn y mae yn ei gyf- lawni yn wasanaeth i'r Arglwydd o gwbl, ond i'r graddau y byddo ef ynddo yn cyf- iwyno ei hunanyn eiddo iddo, ac i'rgradd- au y byddo yr ymgyflwyoiad hwnw yn cael dylanwad ar ei galon i beri iddo deimlo mai yr Argiwydd a'i piau, ac í awyddu bod yn u sanctaidd ^^mhob ymar- weddiad." Dyma fel yr ydym i edrych ar bob llafur a haelioni mewn cysylltiad â chrefydd, Y mae pob gwasanaeth yn y ffordd yma yn aberth cymeradwy gan Dduw, osbydd yn cael ei roddi yn ol mesur y dalent sydd wedi ei hymddiried i'r dyn. Ond gallasai y Brenin Mawr fyned â'i deyrnas ymlaen yn dawel mewn Ilawef ffordd, heb ei gosod ar ysgwyddau ei boW, pe buasai yn gweled hyny yn oreu ; ond buasai felly yn atal oddiwrthynt hwy foddion arbenig iV dwyn i deimlo mai goruchwylwyr ydynt, ac i farweiddio llygredd y galon, pan y mae yn cymeryd y ffurf o gariad at y byd; ac hefyd yn eu hamddifadu o fraint, nas gall un dyn sydd yn caru ein Harrlwydd Iesu Grist, lai na theimlo ei bod yn íawr iawn. Y mae y dosbarth o offrymau a elwid yn "aberthau hedd," agsydd yn cael eu goiod allan yn Lefit. vii., o dri math ; a'r cyntaf a nodir ydyw u Offrwm Diolch," neu offrwm mawl, fel y myn rhai ei alw. Y mae hwn yn cyfeirio yn arbenig at yr aberthau a ddygid gerbron yr Arglwydd mewn cyd- nabyddiaeth o ryw ddaioni neillduol ac uniongyrchol oddiwrtho. Ystyrir yr