Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(|ijmúd $1 al)lì0íhal IAWN ANFEIDROL DROS BECHOD MEIDROL. GAN Y PARCIL D, C. EDWARDS, B.A., BALA. ?AE yn debyg y bydd rhai yn barod i ddwyn yn erbyn ein gosodiad yn y rhifyn diwedd- af, nad yw pechod ond meidrol, yr wrthddadl fod pechod yn doriad oddeddf anfeidrol, abod hyny yn gwneyd pechod ei hunan yn anfeidrol. Yi ydym yn cydnabod, aC yn wir, mae yn anmhosibl rhoddi gormod o bwys ar y gwirionedd fod y ddeddf foesol yn anfeidrol: pe gwadem hyny, byddai un obrif seiliau ein duwinyddiaeth yn cael ei siglo. Ond nid ydyw y ffaith fod y ddeddf ynddi ei hunan yn anfeidrol yn gwneyd gweithred dyn pan yn ei throseddu yn weithred anfeidrol. Pa fodd y mae yn bosibl i fôd meidrol drwy weithred feidrol droseddu egwyddor anfeidrol sydd ofyniad dyddorus, er, feallai, yn un nas gallwn roddi ateb boddhaol iddo ; mae man cyffyrddiad yr aufeidrol a'r meidrol yn diriogaeth uwch- law cyraedd pawb ond yr Anfeidrol ei Hunan. Ac eto, er nas gall y meidrol amgyffred yr anfeidrol, mae yn ddiameu fod gan y meddwl dynol allu i raddau i ganfod yr anfeidrol : a'r unig ffordd y gallwn ni ddyfod at yr anfeidrol ) w trwy y meidrol, ac feallai nad anghywir yw dweyd fod yr anfeidrol yn ymguddio ymhob meidrol, a bod ystyriaeth fanwl hyd yn nod o'r mcidrol yn arwain i ddatgudd- iad o'r anfeidrol. Ar yr un pryd rhaid bod yn ochelgar rhag camddeall y gwirionedd yma, oherwydd golwg unochrog o hono sydd wedi arwain llawer o brif feddylwyr y byd i Oll-dduwiaeth : ond ar y llaw arall, mae colli gafael ar y gwirionedd hwn yn arwain yn uniongyrchol i'r eithaf arall o Ddidduwiaeth. Er mwyn egluro ein meddwl, edrychwn ar y gwirionedd hwn fel yr ymddengys yn ein syniad am y greadigaeth. Meidrol yw y greadigaeth, a meidrol yw ein syniad am dani, ond ar~ weinir y meddwl o angenrheidrwydd at yr anfeidrol drwyddi. Mae yr eangder lle mwyaf y gallwn syniaw am dano yn feidrol, ond mae y syniad am y lle lleiaf yn cynwys crediniaeth mewn anfeidroldeb lle: pa linell bynag a osodwn yn derfyn i le, mae y meddwl yn llamu drosti i le y tuallan iddi, ac felly yn ddibaid ; ac mae y meddwl yn cael ei orfodi, heb amgyffred, i gredu yn anfeidroldeb yr eangder diderfyn. Felly gydag amser, il hurwyr un diwrnod ydym," ond mae eiliad o amser yn cynwys tra- gwyddoldeb. Gwelir yr un peth ynglŷn â gwrthddrych addoliad ; mae prif ieithydd- wr y byd wedi dangos fod yn anmhosibl i'r anwariaid mwyaf difeddwl addoli hyd yn nod pren neu faen heb fod yn gyntaf yn meddu rhyw ymdeimlad o'r anfeidrol. Felly, mae gan y meddwl dynol allu, nid i amgyffred, ond i ymestyn ac i ymdeiiilo â'r anfeidrol; ac y mae yr anfeidrol hwnw i'w gael fel yn ymguddio ymhob peth meidrol. Yn yr Ymgnawdoliad yn wir daeth yr anfeidnJ a'r meidrol i agosrwydd mwy nag ymhob man arall, oherwydd yn mherson dwyfol-dynol Crist daeth yr anfeidrol, nid yn unig i gyffyrddiad â'r meidrol, ond yn Hwn dafcodwyd canolfur y gwahaniaeth rhyngddynt; oherwydd mae Efe yn Dduw ac yn ddyn, yn anfeidrol ac yn feidrol; ynddo Ef mae Duw ynhanfodi mewn dull meidrol, yn gystal ag mewn du!l anfeid- rol, ac am hyny ceir y datguddiad mwyaf perffaith o Dduw yn mhersonlesu Grist. Wrth gymhwyso y gwirionedd uchod at y ddeddf, feallai y cawn ryw awgrym sut i esbonio y posibilrwydd o dori deddf anfeid- rol drwy weithred feidrol. Mae y ddeddf ynddi ei hnnan—yn ei hegwyddor—yn