Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

abbflfltoL IAWN ANFEIDROL DROS BECHOD MEIDROL. GAN Y PARCH. D. C. EDWARDS, B.A., BALA. ».ID gormod, feallai, ydyw dweyd V fod pob cyfeiliornad duwin- yddol, yn gystal a phob cyf- eiliornad ymarferol, yntarddu o olygiadau anghywir ynghylch natur pechod. Mae y rhai sydd dal nad yw pechod yn ddim ond afiechyd moesol, o angenrheidrwydd yn gwadu athrawiaetb yr Iawn, ac o wadu Iawn, yn gwadu Dwyfoldeb Crist. Os nad yiym yn ein duwinyddiaeth, yn gystal ag yn ein crefydd ymarferol, yn cychwyn gydag argyhoeddiad o bechod, mae ein holl dduwinyddiaeth yn rhwym o fod yn eidail ac arwynebol. Ar yr un pryd, mae yn llawn mor bwysig i ni beidio cael ein cario ymaith gan deimlad o fawr ddrwg pechod i wneyd pechod yn rhy wbeth mwy nag ydyw. Mae yn anmhosibl i ni gael ein llenwi à gormod o ffieiddiad o bechod : ond mae rhai duwinyddion, dan ddylanwad teimlad o atgasrwydd at bechod, yn gwneyd pechod yn fwy nag ydyw, ac wrth hyny yn tynu ymaith o ragoroldeb yr Iawn. Un syniad sydd yn ddigon cyffredin ymhlith ein duwinyddion mwyaf arwyneb- ol ydyw fod pechod yn ddrwg anfeidrol. Pan ddefnyddir j gair u anfeidrol " yi' yr ystyr o " annhraethol" neu "anamgyffred- adwy," nid oes genym un gwrthwynebiad i briodoli anfeidroldeb i bechod. Ond y mae y syniad fod pechoi yn ddrwg anfeidrol yn nghyflawn ystyr y gair yn arwain i gyfeil- 'ornadau dybryd, ac yn eiddilo holl dduwin- yddiaeth y rhai sydd yn dal y fath syniad. Nid anhawdd fyddai dangos fod yr heresi hwn yn arwain yn uniongyrchol i'r hen grediniaeth a goleddid gan rai cenhedloedd paganaidd fod dau dduw, un da ac un drwg, yn dragwyddol ymladd â'u gilydd, oher- wydd os yw pechod yn anfeidrol, mae yn gymaint â Duw ei hunan ; ac feallai y caniata yr Uch-Galfiniaid mwyaf eithafol mai nid ymladdfa rhwng dau Dduw oedd yn cymeiydd Ue ar Gjlfaria. Cyfeiliornad arall yr arweinir ni iddo gin y syniad fod pechod yn ddrwg anfeidrol ydyw y cyfeiliornad y bu y goreuon o'r tadau Methodistaidd yn ymladd mor benderfynoi yn ei erbyn, sef y cyfeiliornad o Iawn c} dbwys, ac nid yw yn gwneyd fawr o wahaniaeth pa un ai darostwng yr Iawn i fod yn gydbwys â phechod a wnawn trwy wneyd yr Iawn yn feidiol, neu ddyrchafu pechod i fod yn gydbwys â'r Iawn, trwy wneyd pechod yn anfeidrol. Os yw drwg pechod yn anfeidrol, mae yn gymaint a'r Iawn, oherwydd nid yw yr Iawn yn fwy nag anfeidrol. Ac mae yn debyg y gallwn feiddio dweyd, heb ofni cyfeiliorni, fod y syniad o anfeidroldeb pechod mewn gwir- ionedd yn difodi yr Iawn. Os yw pechod yn ddrwg anfeidrol, mae un pechod yn ddrwg anfeidrol, ac nid }n unig rhaid cael Iawn anfeidrol ar gyfer un pechod, ond mae un pechod anfeidrol yn dyhysbyddu yr Iawn anfeidrol ; ac am nad oes ond un Iawn, mae yn anmhosibl cael Iawn dros fwy nag un pechod, yn ol y golygiad yma. Ond " Efe yw yr Iawn dros ein pechodau ni ; ac nid dros yr eiddcm ni yn unìg',