Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<%0ttîd p atrktM CRONICL YR YSGOL SABBOTHOL. 1*V ^jplJAMEU fod cynal cystadleu- L^ aeth mewn sillebu yn newydd- '1 beth dieithrol mewn [cysyllt- ', iad â Chyfarfod Ysgolion, ond yr ydym yn deall fod Dosbarth Nefyn wedi ei roddi raewn ^ gweithrediad, a'i fod yn llwyddo yn ks rhagorol iawn. Nid oes neb a ddadl- eua nad ydyw o bwys mawr cael y plant a'r ieuenctyd i sillebu Cymraeg yn gywir, nàc a wrthwyneba unrhyw gynllun a dueddo i gyraedd yr amcan hwnw. Yr ydym yn credu fod talu sylw iddo yn y Cyfarfod Ysgol hefyd yn debyg o brofi y moddion mwyaf effeithiol i roddi bri ar sillebiaeth yn yr ysgolion, ac i gael yr athrawon i roddi gwersi ac ymarfenadau arno yn eu dosbarthiadau. Y mae yn rhyfedd mor Ueied o bobl sydd yn alluog i sillebu yn gywir. Gellir cael llawer wedi arfer ysgrifenu yn gyson, naill ai o ddiofal- wch neu arfer ddrwg yn analluog i roddi brawddeg wrth ei gilydd heb ynddi liaws o wallau mewn sillebiaeth. Ni byddwn yn synu cymaint gweled Saeson yn sillebu yn ddrwg, ond y mae gweled Cymro yn gwneyd hyny yn rhywbeth nas gellir rhoddi cyfrif am dano, oblegid fod yr iaith Gym- raeg mor hawdd i'w sillebu. Nid oes eisiau ond rhoddi llyth)ren am bob sain a fyddo mewn gair nad ysgrifenir y gair yn hollol gywir. Yr un modd wrth ddarllen Cymraeg, ni raid ond yn unig seinio pob Hythyren, ac yr ydym yn rhwym o ddweyd y geiriau yn gywir. Ond ar wahân i hyn, y mae sillebiaeth yn un o'r pethau mwyaf tyddorol i blant wedi unwaith y caffont "as arno, a byddai ymarferiad mwy mynych â hyn yn yr ysgolion yn sicr o beri mwy o zel ac ymroddiad gyda phob gwersi eraill. Yn Nghyfarfod Ysgol Dosbarth Barrow- in-Furness galwyd sylw at yr " Angenrheid- rwydd am ddysgu Cymrae^ i'r plant." Da iawn genym weled ein cyfeillion yn y parthau pellenig hyny wedi dyfod i sefyll yn wyneb y mater pwysig hwn, ac i ym- drechu gwneyd rhywTbeth gyda golwgarno. Y mae dysgu Cymraeg i'r plant mewn trefydd Seisnig yn rhywbeth sydd yn gofyn diwydrwydd a chydwybodolrwydd mawr, ond ofer dadleu ei fod yn beth an- mhosibl, gan fod miloedd o engreifftiau i'w cael, drwy drugaredd, o rieni yn gallu ei gyflawni. Dylid yn ddiameu wneuthur rhyw ddarpariaeth ar gyfer y nifer liosog o blant rhieni Cymreig sydd heb fedru Cymraeg ; ond nid yw hyny yn profi y dylid magu tô arall yn yr un cyflwr a hwynt. Am y rhai sydd wedi eu hes- geuluso, gwnaer a aller iddynt. Darparer gwasanaeth crefyddol iddynt yn Saes.ieg, neu anfoner hwynt i addoldai Seisnig, ond ar yr un pryd gwnaed pob teulu ei oreu i beidio magu ychwaneg o rai tebyg iddynL Yn y teulu y mae dysgu Cymraeg, aG os na wneir hyn yn y teulu ynfydrwydd disgwyl y gellir ei wneyd drwy unrhyw foddion nac offerynoliaeth arall. Byddwn yn synu weithiau at y cyflwr anghelfydd, anhylaw y mae ambell deulu wedi myned iddo drwy fod y plant [yn tyfu i fyny yn Saeson. Gellir cael rhieni weithiau heb fedru Saesneg yn magu plant heb fedru Cymraeg, ac fel rheol rhieni felly ydyw y mwyaf esgeulus. Y mae llawer math o ddulliau yn cael eu