Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

djromcl p gS0ol JfeMnrfhal. AMRYW YSTYRIAETHAU. "JD yw ein terfynau yn caniatau ("2 i ni roddi erthygl gyfan ar lawer o faterion perthynol ^O/^ i'r Dosbarthiadau y byddai yn fuddiol ar lawer cvfrif /-'cK alw sylw atynt, achan hyny nis gallwn wneyd yn well na galw sylw at amryw bethau mewn un ysgrif. Yr ydym yn cael lle i gasglu oddi- wrth y cyfrifon a gyhoeddir genym o bryd i bryd, mai ychydig iawn o'r ysgolion sydd mewn gwirionedd yn ymro^di i ddysgu alhn. Nid yw nifer y penodau fel rheol ond ychydig, ac erbyn edrych nifer yr adnodau a gynwysir ynddynt, y maent yn ymddangos yn llai fyth ar gyfartaledd—y mae eu rhif, o leiaf, yn ddigon isel i broíì mai penodau bychain iawn ydyw y rhai a adroddir. Fel rheol, chwyddir nifer cyflawn yr adnodau gan golofn arall yn cynwys "adnodau eraill," "adnodau ychwanegol," neu " adnodau gwaágaredig;" ond o'n rhan ein hunain, byddwn yn edrych' yn lled amheus ar y colofnau hyn. Ond er ychwanegu y rhai hyn, y mae nifer yr adnodau ar gyfer pob aelod yn myned yn ychydig. Y mae pump neu chwe' mil o adnodau ar yr olwg gyntaf yn ymddangos yn llawer ; ond rhaner hwynt rhwng ugeiniau o bersonau, a rhaner y swm ar gyfer pob un rhwng deuddeg a deugain o Sabbothau, a cheir gweled mor fuan y maent yn diflanu. Bwrier fod ysgol o ddau gant o aelodau wedi dysgu ugain tnil o adnodau mewn blwyddyn. Ymddangosai ugain mil yn gyfrif uchel, ond eto ni byddai yn ddwy adnod yn yr wythnos ar gyîer pob un. Byddai taflen yn ngholofn y cyfrifon i ddangos cyfartaledd nifer yr aelodau a'r adnodau a ddysgir ynrhwym o gael argraff dda, a gallai y naill ysgol felly gymharu ei hunan âg ysgol arall gyda rhwyJdineb. Yr oedd yn llawen genym gyhoeddi yn ein rhjfyn diweddaf adroddiad o weithred- iadau Dos^barth Ysgolion newydd sydd wedi ei ffurfio yn Sir Gaerfyrddin. Y mae i'w adnabod wrth yr enw " Dosbarth Llan- genech," ac er na chynwysa ar hyn o bryd ond tair o ysgolion, yr ydym yn deall fod iddo ragolygon disglaer, ac y gellir disgwyl canlyniadau daionus oddiwrth sefydliad Cyfarfod Ysgol, i ofalu am yr achos da yn y Dosbarth. Pwy a ŵyr na bydd hyn yn foddion nid yn unìg i ychwanegu dylanwad yr ysgol yn y Ueoedd y mae wedi rhoddi ei throed i lawr ynddynt ei;oes, cnd hefyd i helaethu ei therfynau i ardaloedd cym- ydogaethol ? Dymunwn i'n cyfeillion yn y parth hwn bob llwyddiant gyda y gwaith, a phob hyfrydwch a bendith yn y cyflawniad o hono. Gallwn gasglu oddiwrth awgrymiad o eiddo y Parch. O. Hughes, Tregynon, yn Nghyfarfod Ysgol I.lanwyddelan, fod yr arolygwr eto mewn rhai lleoedd yn parhau i ddal ei swydd fel athraw. Yr oedd hyn unwaith yn arferiad cyflredin. Dewisid brawd yn arolygwr, a gadewid yr enw arölygwr iddo am flynyddoedd, weithiau ddeg neu ugain mlynedd, tra y byddai yn y cyfamser yn gwasanaethu hefyd fel athraw. Ystyrid ei waith fel arolygwr yn rhy ddi- bwys i hawlio ond ychydig fynydau o'i amser. Ar ddechreu yr ysgol, disgwy.id