Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(^tfiẀÌ p abhotítol PECHODAU YR OES. JAMEU fod ein darllenwyr wedi sylwi yn ein rhifyn diweddaf ar y penderfyniadiu y daethpwyd iddynt gan Gyfnfod Ysgolion Dosbarth Dinorwic, gyda yr amcan o ddwyn yr Ysgol Sabbothol yn yr ardaloedd i weithredu yn fwy union- gyrchol fel gallu i ymo3od ar ddrygau ac arferion llygredig yr oes. Wrth alw sylw at hyn, y maent yn galw sylw at waith a esgeulusir i raddau gormodol yn y dyddiau hyn, a gwaith he'yd oedd ar y cyntaf yn cael ei ystyried a'i gydnabod fel un o brif amcanion yr Ysgol Sabbothol. Nid ychydig y defnydd a wnaed o honi yn nyddiau ein henafiaid fel offeryn i ymosod ar ddrygau o bob math, yn gystal ag i feithrin a dysgu eu haelodau yn y rhin- weddau cyferbyniol iddynt, ac nid ychydig ychwaith y lles a'r daioni a effeithiwyd trwy hyny. Erbyn hyn, anfynych y clywir ei llais mewn ffordd o rybuddio na chyng- hori, llawer llai mewn ffordd o ddisgyblu a chondemnio, a'r canlynhd ydyw fod perygl i hen arferion drwg yr arferid cymeryd yn ganiataol eu bod wedi eu diwreiddio o'r tir er's oes yn ol, ail ymddangos yn ein mysg gyda hyfdra a haerllugrwydd, nad oes dim a'i gwna yn bosibl ond cynefindra pechad- urus â phethau sanctaidd, ac mewn canlyniad i hyny, ddibrisdod rhyfygus o bob dylanwad ac awdurdod. Yn y dyddiau hyn y mae llai o bregethu yn erbyndrygau neillduol nag a arferai fod, ac nid ydym yn ameu nad yw hwn ar y cyfan yn gyfnewid- iad er gwell, yn gymaint ag mai amcan y weinidogaeth a ddylai fod dwyn yr efengyl yn ei chariad, ei gogon:ant, a'i mawredd, i weithredu ar galon a chydwybod y gwrandawyr, yn hytrach na disgrifio pechodau, a rhoddi adroddiad o weithred- oedd anfad yr ardalwyr. Y mae pawb yn gallu gwrando ar bregethu felly gyda hyfrydwch mawr—os byddant hwy eu hunain yn rhydd oddiwrth y beiau a gondemnir ; ond er hyny, y maent yn myned i waered i'w tai heb eu cyfiawnhau, ac yn wir heb eu hargyhoeddi, nac anes- mwytho arnynt yn y gradd lleiaf. Mwy cydweddol âg amcan y weinidogaeth ydyw dysgu athrawiaeth, a meithrin duwioldeb, denu yr enaid at Grist, a'i ddwyn i hofH ac i ddymuno y purdeb a'r sancteiddrwydd, y' diniweidrwydd a'r prydferthwch sydd ynddo. Ni ddymunem byth weled yr odfa boreu Sabbath, na nos Sabbath wedi myned i gael ei defnyddio fel cyfleusdra i hysbyau ar goedd cymydogaeth faint o ddrygau á gyflawnir ynddi, ac mor annuwiol y mae rhai o'i phreswylwyr yn byw. Anmhosibl hefyd gwneyd cyfeiriadau o'r fath o'r pulpud, na byddant yn cael eu deall a/u derbyn fel cyfeiriadau personol. Y mynyd y rhydd dyn heitio bregethu yr efengyl, y mae yn rhaid iddo bregethu rhywya neu rywbeth arall yn ei lle ; a'r mynyd y rhyd^ heibio gondemnio pechod, y mae yn syrthip i'r camgymeriad peryglus o gondemnio y pechadur. Gellir condemnio y troseddwr yn y cyiarfod eglwysig, ond nid yn y gynulleidfa. Am yr un rheswm y mae yn hollol briodol galw sylw at ryw ddrygau neillduol y gall ychydig nifer o aelocfôu