Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dfinmid j)r |fópl JIÄtM MEUSYDD LLAFUR. |AIR cyffredin iawn yn y dyddiau hyn, a gair a gyfarfyddir yn fyny ch iawn ar dudalenau y Cronicl ydyw " Maes Llafur." Y mae yn air hefyd yr ydym yn teimlo yn nodedig hoff o hono, ac yn llawenychu pan y cawn olwg arno, neu ryw grybwylliad newydd am dano. Ar yr un pryd, nid ydym heb ofni ei fod yn fynych yn nheimlad llawer o'r ysgolion yn golygu math o fwgan y byddai yn dda ganddynt allu ei osgoi, a thrwy ryw foddion gael ymwared oddiwrtho. " Nid da rhy o ddim," ac y mae gormod o " leusydd llafur" yn llawn gwaeth na rhy fychan. Ceir y cyfarfod athrawon yn penodi maes llafur, a'r Cyfarfod Ysgol yn gwneyd yr un peth. Wedi hyny daw y Gymanfa Ysgolion ymlaen gan alw sylw neillduol at ei maes llafur hithau, ac yn ddiweddaf oll, odid na ddeffroa y Cyfarfod Misol, a'r ffurf neillduol a gymera ei fywiogrwydd yntau fydd anogaeth daer ar yr holl ysgolion ym- gymeryd â rhyw faes llafur! Yn awr, nid ydym yn ystyried fod yn bosibl rhoddi gormod o lafur i'r ysgolion, ond yr ydym yn sicr yn credu fod yn hawdd iawn gwas- garu y llafur hwnw dros ormod o feusydd, a thrwy hyny nychu i raddau mawr ysbryd llafur, neu beri fod llawer o lafur yn cael ei gymeryd gyda Uawer o wahanol faterion, a'r cwbl yn y diwedd yn troi allan yn lled an- effeithiol. Nid oes neb yn ddiameu sydd yn teimlo dyddordeb yn yr Ysgol Sabbothol a'i symudiadau, a'i. gwaith, nad ydyw hcfyd lawer gwaith wedi teimîo oddiwrth yr an- fantais yn gystal a'r anhawsdra sydd yn cael ei achosi drwy hyn, ac wedi cynllunio llawer pa fodd i'w gochel. Y mae yr an- fantais yn amlwg i bawb, ac y mae yr anhawsdra yn adnabyddus iawn i bawb sydd ryw dro wedi bod yn ceisio symud ymlaen at gael diwygiad. Lle y mae anfantais yn cael ei oddef ac anhawsdra yn cael ei deimlo trwy y blynyddoedd, y mae yn ymddangos i ni y rhaid fod hefyd ryw gymaint o fai yn rhywle, ac yr ydym yn tueddu i osod y bai yn gwbl wrth ddrws yr ysgolion eu hunain. Ofer gwadu nad y peth casaf ganddynt o bob peth ydyw pob ymgais at unffurfiaeth. Pan y mae y cyfarfod athrawon yn tori gwaith i'r ysgol, ni bydd yn gyffredin ond ychydig ddosbarthiadau yn barod i ym- gymeryd âg ef. Yr un modd pan y mae y Cyfarfod Ysgolion yn tori gwaith, ni bydd ond ychydig o'r ysgolion yn barod i afael ynddo, a'r gweddill yn ymddwyn fel y gwnai rhyw bobl eraill nad oes angen ym- helaethu ar eu nodweddion gwahaniaethol a neillduol, pan nad oedd freoin yn Israel, a phan y gwnai pawb yr hyn oedd uniawn yu ei olwg ei hun. Y canlyniad ydyw fod meusydd llafur yn amlhau, a rhai lleoedd yn ymgymeryd âg un peth a'r lleill â pheth arall, ac yn eu mysg o angenrheidrwydd ceir llawer o ysgolìon heb ymgymeryd yn wresog iawn â dim. Byddai guchel hyn yn beth hawdd pe byddai hawdd er hyny. Buasai unrhyw un yn alluog i brofi i fodd- lonrwydd cyffredinol na bu erioel ddim byd hawddach oni bai ei fod eisoes wedi eî brofi i foddlonrwydd braidd bob dyn yn