Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<%mtid ix ahboíM BLWYDDYN NEWYDD DDA. 'R ymadrodd a glywir fwyaf cyffredin y tymor hwn o'r fiwyddyn—ymadrodd y mae cyfeillion yn ei ddywedyd wrth eu gilydd, ac yn ei anfon eu gilydd i bob gwlad—ydyw, K " Blwyddyn Newydd Dda." Y mae V yn ymadrodd ag y teimlir yn gyíTred- inol fod llawer o swyn yn perthyn iddo, a'i fod yn creu sirioldeb a hyfrydwch yn mynwes pawb a'i clywo, ac ar yr un pr^d teimlir ei fod yn un o gyfarchiadau mwyaf pruddaidd y tiwyddyn, gan ei fod er ein gwaethaf yn deffro adgofion am bethau, a phersonau,ac amgylchiadau, sydd yn perthyn yn anocheladwy bellach i'r amser sydd wedi myned heibio ; ie yn wir, i'r tragwyddoldeb sydd yn ddiddechreu. Er hyny, dywedwn o galon u Blwyddyn Newydd Dda." \Vrth ddywedyd " Blwyddyn Newydd Dda," yr ydym yn dywedyd fod un flwydd- yn eto wedi dirwyn i fyny. Gyda ei holl helyntion a'i hamgylchiadau, ei chysuron, ei hanffodion, ei dis^wyliadau, a'i siomedig- aethau—y mae wedi dirwyn i fyny ; ac nis gellir gwella yr un camgymeriad, galw yn ol yr un gair a ddywedwyd, dadwne) d yr un weithred a gyfiawnwyd, nachyflawni yr un ddyledswydd a esgeuluswyd. Y mae y cwbl bellach yn arhosol ac yn ddigyfnewid. Gallwn gyfrif yn ein meddwl y cyfeillion a gollasom, a phortreadu i ni ein hunain ymddangosiad gwelw eu hwynebau llwyd- ion fel y maent yn gorwedd yn ddistaw yn eu hargel w,ely yn mhriddellau'r dyflryn ; ond nis gallwn eu galw yn ol, nis gall ond dychymyg eu galw yn ol, ac er rhoddi pob parch i ddychymyg nid yw ei ddelweddau ond anmherffaith,a'i ffurfiau ond disylwedd. Un peth yn unig sydd sylweddol—eu hab- senoldeb hwy. Eu habsenoldeba'u pellder oddiwrthym—eu pellder hyd yn nod o ran lle. Er y dichon nad oes ond y gwrych rhyngom â'r fynwent, eto yr ydym rywfodd yn teimlo eu bod ymhell iawn, mor bell ag ydyw ymdaith y gwynt—rhew-wynt yr hirnos yn mis Ionawr wrth chwibianu a chwyrnellutrwy y cloerau a'r flenestri, wrth udo yn wylofus ar grib y tŷ, a rhwng y simddeiau—yr ydym yn te mlo rywfodd, o ba bellder bynag y mae wedi dyfod, ei fod wedi dyfod oddiwrthynt hwy, a'i fod hefyd mewn modd annealladwy yn dychwelyd atynt hwy, gan sibrwdwrthynt rywbeth na wyddom yn iawn pa beth, ond rhywbeth sydd yn peri i ni deimlo ein bod ni a hwythau yn peithyn yn agos iawn i'n gilydd. Blwyddyn Newydd Dda ! Y mae hyny yn golygu fod un flwyddyn arall wedi dechreu—blwyddyn newydd. Nid oes dim byd mor newydd a blwyddyn newydd. Ni thywynodd yr haul erioed o'r blaen ar fis Ionawr, 1879. Ni sydd yn byw yn y byd hwn eleni. Pa faint bynag o waith a wneir ynddo rhaid ei wneyd genym ni rywfodd rhyngom â'n gilydd, a pha beth bynag a adewir heb ei gyfîawni arnom ni y bydd y bai, a nyni a ddelir yn gyfrifol am y canlyniadau. Gwerthfawr genym fyddai cael ar ddeall fod holl ddarllenwyr y Cronicl yn ymwregysu i waith—gwaith mewn ystyr bersoaol, ymroddiad i ddysgü, Cyf. U.