Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<%mtid gr §%%û JlẅötM EIN BLWYDDYN GYNTAF. |RTH anfon allan y deuddegfed rhifyn o Gronicl yr Ysgol Sabbothol, naturiol iawn ydyw edrych yn ol ar waith y flwyddyn, gan deimlo awydd dyfalu pa lwyddiant sydd wedi ei ddilyn. Gallwn sicrhau ein dar- llenwyr ei fod yn waith mawr, a'i fod yn fater o syndod i ni ein bod wedi gallu dyfod drwyddo ryw lun, er pob ymroddiad a di- wydrwydd gydag ef. Ar yr un pryd, yr ydym ymhell o fod wedi boddio ein hunain, ac felly o angenrheidrwydd yn cymeryd yn ganiataol mai afresymol i ni ddisgwyl ein bod wedi boddio pawb arall. Er hyny y mae y gefnogaeth wresog a dderbyniasom yn peri i ni deimlo yn hyderus gyda golwg ar y dyfodol, ac yn ein llanw â phender- fyniad i ymdrechu yn fwy egniol fyth i wneuthur y Cronicl yn fnddiol ac yn ddeýnyddio/, ac hyd y gallwn hefyd, yn ddyddoro/, i liaws ein darllenwyr. Nid yn tynych y mae cyhoeddiad Cymreig yn cyraedd cylchrediad o ddeuddeng mil y flwyddyn gyntaf; ac yr ydym yn priodoli lledaeniad digyffelyb y Cronicl i'r angen cyffredinol a deimlid gan gyfeillion yr Ysgol Sabbothol am gyhoeddiad o'r fath, yn hytrach nag i ddim arall. Gobeithiwn ei fod erbyn hyn wedi enill lle iddo ei hunan, ac mai nid cysurus gan yr ysgolion mwyach a fyddai meddwl am fyned ymlaen hebddo. Dymunem alw sylw pawb at yr ystyriaeth mai anmhosibl iddo fod yn ddefnyddlol os na ddefnyddir ef, a bod gwneuthur defnydd gonest o lyfr, a fwriedir i gyfranu addysg, yn enwedig addysg o nodwedd elfenol, yn gofyn rhywgymaint o I lafur ar ran y darllenwyr. Nid difyrwch | yi ydym ni yn amcanu ei roddi i'n darllen- I wyr, ac yn wir nid gwybodaeth, yn union- gyrchol, ond gwaith. Pe y llwyddem i j gynyrchu ysbryd gwaith, nid ydym yn | ameu nabyddai ein cyhoeddiad yn gyfrwng gwybodaeth, ac heblaw hyny yn foddion y difyrwch goreu a mwyaf dyrchafedig. Os '' oes rhai o'n darllenwyr yn ddoeth uwchlaw yr hyn a ysgrifenir yn y Cronicl, nid oes genym ddim i'w ddweyd wrth y dosbarth ! hwnw, ond dyrouno arnynt beidio ei ddar- | llen, gan nad ydym yn proffesu dysgu neb I sydd yn gwybod mwy na ni; ac mai ein huchelgais ydyw meithrin awydd darllen yn lliaws aelodau yr Ysgol Sabbothol, ac wrth gynyrchu ynddynt yr awydd hwnw ar yr un pryd droi eu meddyliau, a denu eu sylw at y meusydd toreithiog sydd yn ym- agor o'u blaen mewn gwybodaeth a myfyr- dod o'r Ysgrythyr Lìn. Yr ydym yn ystod y flwyddyn wedi ystyried ac ymwrando llawer gyda'r amcan o wella y Cronicl ymhob modd dichon- adwy, a llawen ydoedd genym gael golwg ar rywbeth yn yr hwn y gallem ei ddiwygio ; oblegid ni ddymunem hyd yn nod i'r Cronicl ddyfod. yn beiffaith yn rhy fuan. Buom yn gofyn cyngor brodyr enwog a phrofiadol gyda golwg ar hyn; eithr rywfodd yn ddieithriad yr oeddynt yn teimlo yn anhawdd i'w roddi : ond mewn ffordd o iawn am eu hanmharodrwydd hwy, yr ydym wedi derbyn canoedd o gynghorion oddiwrth frodyr eraill heb eu gofyn—brodyr hefyd y buasai yn hyfrydwch mawr i ni eu hadnabod, gan ein bod yn cael lle cryf i