Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dfrrmid ix YR YSGOL SABBOTHOL YN LERPWL. MAE yn dcbyg mai y ffordd feraf i roddi golwg gywir i'n darllenwyr ar sefyllfa yr Ysgol Sabbolhol yn Lerpwl fyddai trwy ddweyd ei bod yn dda iawn, ond ei bod yn bur ^y fechan. Y mae yn fechan mewn cym- V hariaeth i nifer y cynulleidfaoedd, ac yn fechan hyd yn nod mewn cymhar- iaeth i nifer yr eghvysi. Nis gallwn weled i sicrwydd pa beth ydyw yr achos o hyn ; ond diameu fod llawer o resymau, neu yn hytrach fod llawer o esgusion y gellid eu rhoddi drosto; ond y mae yn amheus genym a fyddai yr un o honynt yn ddigon i gyfiawnhau y peth. Yr ydym yn barnu hefyd fod yr esgeulusdra hwn i'w ganfod yn benaf ymysg yr hen frodorion, yn hytrach nag ymysg rhai newydd ddyfod i'r dref. Y maent hwy fel rheol yn dra ffyddlawn i ddyfod i'r ysgol, ac yn gyffredin yn parhau felly am flynyddoedd ; ond rywfodd ymysg y rhai sydd wedi ymsefydlu er's amser can- fyddir cryn ddiofalwch, yn enwedig ar ran penau teuluoedd a merched ieuainc. Y mae hyn yn golled annhraethol iddynt hwy eu hunain, ac i lawer eraill, a da iawn a fyddai cael pob sefyllfa a graddau o Gymr.y yn y dref i ystyried eu hunain yn aelodau o'r Ysgol Sabbothol. Mae yn hyfryd gonym gydnabod fod eithriadau lawer i'r rheol hon. Gellir cael ugeiniau o gyfeillion ieuainc, yn feibion a merched, wedi eu magu yn y dref ymhlith pleidwyr mwyaf gwresog, ac ymhlith athrawon ac athrawesau mwyaf medrus a flyddlon yr Y«gol Sabbothol, ond eto, raewn cymhariaeth i'r rhai sydd yn. ymddwyn yn wahanol, nid ydynt ond ychydig. Rywfodd y mae pawb sydd yn Lerpwl yn zelog dros yr Ysgol Sabbothol, yn zelog iawn ac yn weithgar iawn ; fel y gellir ar unwa;th weled y rheswm dros ddweyd fod y sefydliad mewn cyflwr j llewyrchus, a'i bod yn ysgol dda. Byddai yn anhawdd casglu at eu gilydd yn unlle nifer cyffelyb o athrawon ac athrawesau mor fedrus a deheuig, ac yn cymeryd cymaint o boen i gynllunio ac i ymbaroíoi ar gyfer dyledswyddau y Sabbath, nac yn cael eu hoffi a'u parchu yn fwy gan ddeiliaid eu dosbarthiadau. Anhawdd hefyd a fyddai cael mwy o frodyr yn meddu cymhwysder- au mor neillduol i'r swydd bwysig o arol- ygwyr, ac ysgrifenyddion, a holwyddorwyr. Y mae nifer y dynion amlwg iawn gyda'r Ysgol Sabbothol yn y lle yn llawer. Er hyny, nid ydym yn teimlo, ac nis gallwn mewn un modd ganiatau ei bod yr hyn a ddylai fod. Ar yr un pryd, byddwn yn synu weithiau ei bod cystal, wrth ystyried ei bod yn llafurio o dan lawer o anfanteis- ion, ac nid oes dim a rydd gyfrif am ei sefyllfa bresenol ond yn unig diwydrwydd a dyfalbarhad personau unigol, yn gweith- redu yn benaf oddiar wresogrwydd eu hysbryd eu hunain, a dymuniàd diffuant am fod yn ddefnyddiol. Anfantais dirfawr i'r Ysgol Sabbothol mewn lle fel Lerpwl ydyw nad oes yn perthyn iddi unrhyw gyn- hadledd na chyngor cyffredinol i gymeryd ei hachos i fyny, ac i gymeryd mesurau er ei «hynydd a'i llwyddiant. Pe gofynid i ni