Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

djjrmrid i\ gspl £alrfartM ARHOLIADAU SIROL. MAE yn debyg nad oes neb yn fyw yn cofio gweled cy- maint o ysbryd llafur yn y wlad ag a welir ynddi yn bre- senol. Dichon fod adegau wedi bod mewn ardaloedd neillduol Y% pan fyddai y lliaws yn cael dyddordeb V a phlescr mawr mewn llafurio am wy- bodaeth o'r Ysgrythyr, ond yn ddiau ni bu yr ysbryd hwn erioed mor gyffredinol yn Nghymru ag y mae yn y dyddiau hyn. Y mae zel angerddol wedi ei chynyrchu yn Sir Feirionydd, a rhanau o Sir Aberteifi, drwy gwestiynau Dr. Edwards ar Berson Crist, Cyfiawnhad, a Gwaith yr Ysbryd Glân. Yr un modd yr ydym yn canfod mewn parthau eraill o'r Dywysogaeth : ymhob man y mae darpariaeth gan y sir neu y Dosbarth i dynu y lliaws ymlaen mewn llafur ac ymchwiliad am wybodaeth. Cymerer fel engraifft o'r cwbl olwg yn unig ar y peiriant neu y peirianau sydd ar waith yn Nwyrain Merionydd yn unig. Yn gyn- taf oll, yr ydym yn cael yr hyn y cyfeiriwyd atynt eisoes, sef cyfarfodydd i arholi yr athrawon gan Dr. Edwards, y rhai a gyn- helir yn y gwahanol Ddosbarthiadau yn ol fel y bydd y Cyfarfod Misol yn trefnu. Nid oes neb a all brisio gwerth y symbyliad y mae hyn wedi ei roddi i'r holl ardaloedd. Yn ychwanegol at hyn yr ydym yn canfod fod rhai Dosbarthiadau yn cynal Cymanfa- oedd blynyddol, ac eraill yn cynal arholiad- au dau fisol. Y mae gan Gyfarfod Ysgol Edeyrnion arholiad bob dau fis, ac y mae yn amlwg ei fod yn offeryn bendithiol iawn I er daioni. Yn y wlad dros y Berwyn cyn- j helir arholiadau chwarterol, a gwyl fawr j fiynyJdol i symio i fyny lafur y pedwar I tymor gyda'u gilydd. Y mae Dosbarth ! Penmachno hefyd yn cynal Cymanfaoedd, ac yn sefyll arholiadau, ac yn ol ein had- roddiad diweddaf yr oedd ffrwyth toreithiog iawn yn canlyn llafur y tymor yn diweddu yn nechreu mis Mehefin. Yr un modd y ; gellir dywedyd am Ddosbarthiadau Ceryg- | y-druidion a Phenllyn, nid ydynt yn ol i'r lleill yn eu ffordd eu hunain. Wrth edrych i ben arall y sir, canfyddwn yr un arwydd- ion daionus yno hefyd. Eler drosodd i Sir Aberteifi, a chawn yno y cyfarfod blynyddol mwyaf rhwysgfawr, hwyliog, a llafurus o honynt oll. Deuwn yn ol i Sir Ddinbych, ac yr ydym yn canfod rhai ugeiniau o ber- | sonau yn dyfod ymlaen i'r arholiad ar gwestiynau y Parch. J. Hughes, D.D., ac wrth sylwi ar y siroedd eraill yr ydym yn gweled eu bod hwythau yn ymgymeryd yn awyddus â chyffelyb lafur. Yn sicr y mae llawer o ddysgu arnom. Gobeithiwn ein bod hefyd yn dyfod i wybodaeth o'r gwir- ionedd. Cwynir mewn rhai parthau o'r wlad fod eisiau diwygiad crefyddol, a diameu mai dymunol iawn a fyddai ei gael ymhob man. Y mae yn wybyddus hefyd fod pob diwygiad a gafwyd hyd yn hyn yn cymeryd rhyw un cyfeiriad neillduol iddo ei hun sydd yn ei wahaniaethu oddiwrth ddiwygiadau blaenorol. Sonir am un di- wygiad a gafwyd yn Nghymru pan yr oedd rhyw hwyl a blâs neillduol yn cael ei deimlo wrth gm.n mawl. Wedi hyny