Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dJMttÌtl gt| úMM, TR EGLWTS A'R TSGOL. R ein bod yn ddiweddar iawn wedi galw sylw at y mater hwn, eto yr ydym yn teimlo ei fod mor uwysig fel mai nid anfuddiol a fyddai ychydig eiriau yn mhellach arno. Yn ein hadroddiadau o'r Cyfarfodydd Ysgolion, canfyddir fod arweinwyr y Dosbarthiadau yn gyffredinol yn teimlo fod angenrheid- rwydd am ryw gyfnewidiad yn nghysyllt- iadau presenol yr eglwys a'r Ysgol Sabboth- oi. Nid oes ond ychydig Ddosbarthiadau yn Nghymru nad ydynt wedi bod yn sefyll uwchben hyn er dechreu y fiwyddyn bre- senol. Yr hyn y cwynir o'i herwydd ydyw fod yr eglwys a'r ysgol yn ddieithr iawn i'w gilydd, ac y mae lle cryf i ofni fod y cyhudd- iad yn llawer rhy wir, a bod y naill a'r llall yn cael eu rhoddi o dan anfantais dirfawr mewn canlyniad i hyny. Yr ydym yn barnu hefyd fod y bai yn benaf yn gorwedd wrth ddrws yr eglwysi, oblegid y mae gan swyddogion yr eglwysi hawl i wneyd unrhyw drefniadau a farnont yn angen- rheidiol er Ues a llwyddiant yr achos mawr yn ei holl ranau, a gallent yn hawdd wneuthur darpariaeth i ddwyn achos yr ^gol Sabbothol gerbron yr aelodau eglwysiggyda chysondeb, dim ond id.dynt feddwl am hyny. Y mae pob ymdrafod- aeth sydd wodi bod yn y Dosbarthiadau gyda golwg ar hyn yn awgrymu y naill neu y Hall o'r pethau canlynol fel moddion i ddwyn oddiamgylch y diwygiad sydd yn angenrheidiol :—(i.) Caelpregethau achlyi- Urol ar yr Ysgol Sabbothol. ynghyd âg anwchiadau raewn cyfarfodydd gweddi, &c. Diameu y gwnai hyn ddaioni mawr. Y mae yn anhawdd meddwl am unrhyw fater mwy dyddorol i bregethu arno na'r Ysgol Sabbothol, gan ei fod yn ei holl agweddau mor eang ac amry wiol, ac eto ymhob goleuni arno yn arwain yn uniongyrchol at enaid a bywyd Cristionogaeth. Fel rheol, yr ydym yri teimlo yn wrthwynebol iawn i'r arferiad o bregethu ar faterion neillduol. Ni ddy- munem byth weled y pulpud Cymreig wedi myned i efelychu y pulpud Seisnig, yn yr hwn y ceir ambell foreu Sabbath grynodeb o brif newyddion yr wythnos, neu fraslun o fywyd personau a fuant feirw, neu ychydig o hanes sefydliadau elusenol, ac anogaeth i gyfranu atynt. Y mae hyn yn sarhad mr yr efengyl, ac yn brawf naill ai o anallu a diogi ysbrydol y gweinidog, neu o dywyll- wch a diffyg chwaeth y gynulleidfa; ac hwyrach ei fod yn profi y ddau. Ond y mae pregethu ar yr Ysgol Sabbotfcol yn waith gwahanol iawn i bregethu ar unrhyw un o'r materion uchod, neu lu eraill o rai cyffelyb iddynt. Y mae pregethu ar yr Ysgol Sabbothol.yr un peth a phregethu ar y Beibl, ac y mae pregethu ar y Beibl yn sicr yn golygu pregethu yr efengyl sanct- aidd ar gyfer trueni a cholledigaeth pech- adur. Yr ydym wedi sylwi mai ychydig iawn mewn cymhariaeth o'r brodyr sydd yn arwain y Dosbarthiadau sydd yn traddodi pregethau ar yr Ysgol Sabbothol. Nis gallwn ddeall yr achos o hỳii^ oddieithr 91 bod yn ystyried fod y cyfarfodydd am ddef a dau oV gloch yn ddigon gyda'r ysgol yr un Sabbath, ac mai mwy buddiol a fyddai