Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dfrmẁi p ÄrtM OES Y BYD I'R IAITH GYMRAEG. 'N einrhifyndiweddafgalwasom sylw at y prinder mawr sydd yn ein mysg o bob math o lyfrau cyfaddas i ddysgu neu wobrwyo plant. Dichon mai nid anfuddiolafyddaigairyn mhellach ar y moddion mwyaf tebygol o ddwyn oddiamgylch welliant gyda golwg ar hyn. Yr hyn sydd yn angenrheidiol gyda gol wg ar bob llyfrau o'r fath ydyw eu cael yn bwrpasol, yn brydferth, ac yn rhad, ac y mae hyny ar unwaith yn awgrymu yr an- hawsdra o'u gwneuthur hefyd yn enillfawr i'r cyhoeddwyr a ymgymerent â'u dwyn allan. Ar yr un pryd, yr ydym yn credu nad oes achos ofni llawer na byddai i lyfrau ar gyfer y plant, os byddent yn agos yr hyn a ddylent fod, werthu o leiaf gystal ag unrhyw lyfrau eraill. Ni byddai achos i neb fod yn eu colled arnynt. Y mae mil- oedd, 'ie, ugeiniau o íìloedd o blant o dan addysg grefyddol yn Nghymru, a chydag ymdrech ac ymroddiad, naturiol ydyw tybied y gellid lledaenu yn eu mysg filoedd lawer o fân lyfrau bob blwyddyn, ac wedi unwaith roddi cychwyniad effeithiol i hyn, nid oes amheuaeth na byddai i'r alwad am danynt fyned ar gynydd gwastadol. Hoffem yn fawr weled ein cyhoeddwyr Cymreig yn ymgymeryd yn fwy â hyn, gan ei ystyried tel elfen bwysig yn eu masnach, ac elfen, yn ddiau, y gellid ei dadblygu i rywbeth syhveddol iddynt hwy, ac ar yr un pryd annhraethol werthfawr i'r genedl. Er hyn oll, y mae un peth yn amlwg, f°d yn anmhosibl i'r cyhoeddwyr Cymreig gystadlu mewn rhadlonrwydd â'r cyhoedd- wyr Seisnig. Y mae y maes Seisnig yn llawer eangach, a lliosogrwydd y gwahanol faterion y dysgir y plant ynddynt gymaint yn fwy. Heblaw hyny, y mae yn Lloegr gymdeithasau galluog wedi eu sefydlu o bwrpas i ledaenu llyfrau yn rhad. Un o'r cymdeithasau hyny ydyw, Cymdeithas y Traethodau Crefyddol. Y mae y gym- deithas hon yn gwerthu rhai llyfrau yn rhatach nag y mae yn gallu eu hargraffu. Y rheswm dros hyn ydy w fod ganddi gyllid rheolaidd i ddibynu arno, heblaw yr hyn a dderbynir oddiwrth werthiad y llyfrau. Y mae Cymru yn cyfranu -yn dda at y gym- deithas hon, ac y mae y gymdeithas hithau bob amser wedi dangos awydd canmoladwy i ddwyn allan lyfrau Cymreig ; ond ar yr un pryd, nid yw yn rhesymol disgwyl iddi gyflenwi yr holl angen, nac yn wir, fod yn alluog î ddeall yr angen yn ei holl natur na'i faint. Os ydyw y diffyg mawr hwn i gael ei wneyd i fyny, a phlant y genhedlaeth bresenol o Gymry i gael y chwareu teg a ddylent gael, mewn manteision i ddysgu moesau a chrefydd yn eu hiaith eu hunain, amlwg yw mai ofer disgwyl wrth estroniaid i wneuthur hyny iddynt. Os ydyw y gwaith pwysig hwn i gael ei wneyd, y mae yn rhaid i ni ei wneyd ein hunain fel cenedl. Ac yr ydym yn methu gweled paham nad allem ei wneyd, a'i wneyd yn dda ac yn effeithiol. Onid yw braidd yn hynod, er mor grefyddol ydyw Cymru, ac er cymaint a gyfrenir ganddi yn ffynyddol at bob gwaith da, ac at gymaint o wahanol gymdeithasau