Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<%0ttid i\ úMM. EIN GrWERSI. MAE yn llawenydd mawr i ni gael ar ddeall fod llawer o ddosbarthiadau yn y gwa- hanol ysgolion yn ymgym- eryd mor awyddus â'r Gwersi Ysgrythyrol a gyhoeddir yn fisol yn y Cronicl. Yr ydym wedi clywed hefyd fod llawer o deuluoedd yn gafael ynddynt, ac yn cael hyfrydwch mawr wrth dreulio noson neu ddwy yn yr wythnos, neu ryw ran o'r dydd sanctaidd i lafurio ynddynt. Er fod clod uchel yn ddyledus i'r Ysgol SabbothoL ac i lawer o sefydliadau eraill sydd wedi eu bwriadu i gyfranu addysg a hyfforddiant, eto, er hyny, "Athrofayr Aelwyd " ydyw yr uchaf a'r fwyaf effeithiol o bob athrofa. Dedwydd yn wir fydd cyflwr ein gwlad a'n cenedl pan y bydd pob aelwyd yn y tir wedi dyfod yn feithrinfa gwybodaeth, rhin- wedd, a chrefydd. Nis gwyddom am well cynllun i gario ymlaen addysg deuluaidd na thrwy ddilyn cyfres o wersi o fath y rhai yr ydym yn cyfeirio atynt, ac y mae Gwersi Ysgrythyrol yn bethau mor brinion yn yr iaith Gymraeg fel nad ydym yn petruso cymell eiddo y Cronicl, fel yr unig fai y mae yn hawdd cael gafael arnynt. Nid oes achos ychwaith am ddangos mai rnanteisiol iawn i'r dosbarthiadau yn yr *sgol Sabbothol a fyddai gwneyd yr un Peth, sef dilyn rhyw gwrs trefhus o addysg- jaeth. Hyd yma, yr ydym wedi bod yn hynod amddifad o bob math o drefh—pawb yn gwneuthur fel y byddai da yn ei olwg ei hun, a'r disgyblion yn cael colled, ac yn Wlr yn cael cam dirfawr oherwydd hyny. Y mae yn sỳn, er pob peth, mor ychydig yr ydym yn ei wybod am Iesu Grist. Ni bu Efe byw ond ychydig dros dair blynedd ar ddeg ar hugain. Ni bu yn gyhoeddus ond tair blynedd a haner. Yn ystod y tair blynedd a haner hyny, gwnaeth dair neu bedair o deithiau—dim ond pellder o ychydig ugeiniau o filldiroedd, ac y mae pob peth a gofnodir am dano yn cael eu cyfleu gan yr hanesWyr fel digwyddiadau a gymerasant le yn y naill fan neu y llall pan yr oedd Iesu Grist ar y teithiau hyny. Mor fanteisiol y mae yr hanes wedi ei roddi tuag at ei gofio, ac eto mor ychydig yr ydym yn ei gofio! Dichon fod hyn i'w briodoh i raddau i'r ystyriaeth fod yr Efengylwyr yn eu hadroddiadau yn talu mor ychydig o sylw i amser a threfh y digwyddiadau, ond yn ddiameu y mae i'w briodoli yn fwy i'n syrthni a'n difaterwch ni ein hunain. Pe unwaith y gellid deffro meddyliau deiliaid yr Ysgol Sabbothol i deimlo ac i ganfod y symiedd a'r prydferth- wch gogoneddus sydd yn perthyn i hanes bywyd yr Iesu, y mae yn rhaid mai hawdd iddynt fyddai meistroli prif bwyntiau yr hanes, yn enwedig gan ei fod yn hanes mor llawn o ddigwyddiadau rhyfedd ac anghyff- redin. Da fyddai genym weled chwyldroad hollol yn cymeryd lle yn yr hen ddull marwaidd, annyddorol o ddysgu hanes yr Iachawdwr, ac i'r diben hwnw yr ydym unwaith eto yn cymell y gwersi hyn i sylw ein darllenwyr, gan obeithio y bydd llawer o'r newydd yn ymgymeryd â hwy. Os bydd i'r cyfeillion hyny sydd yn llafurio ynddyrt anfon eu henwau i ni, teimlwn yn fraint rc