Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<|rmtid ẁtM FFBIRIÁTJ PEN-TYMOR N gwasanaeth pwysig a gyflawnid gan y tadau trwy ofíerynoliaeth yr Ysgol Sabbothol, oedd rhybudd- io a chynghori mewn amseroedd o berygl a themtasiwn, ac y mae yn debyg mai dyma y gafael cyntaf a gafodd y sefydliad ar y wlad, ac mai yn y cyfeiriad hwn y teimlwyd ei hefíeithiau gyntaf ar gydwybodau a bucheddau dynion. Cyn bod yr aelodau wedi eu dysgu a'u goleuo yn ngwirioneddau y Beibl, yr oeddynt i raddau mawr wedi eu darostwng ì'av awdurdod, ac ôl ei ddysgeid- iaeth ar filoedd, er nad oeddynt ond pobl anllythyrenog. Yr achos o hyn yn ddi- ameu ydcedd, am fod y dynion mwyaf gweithgar yn yr oes hono yn hoff iawn o gynghori a rhybuddio. Gwneid defnydd mawr ganddynt o'r Ysgol Sabbothol i'r amcan hwnw. Ni chai ffair, nac unrhyw gynulliad llygredig gymeryd lle mewn ardal na byddai llawer iawn o rybuddion yn cael eu rhoddi yn yr Ysgol Sabbothol yn flaenorol i hyny. Dichon fod y tadau wedi cario y gwaith o gynghori yn rhy bell, gan ei wneuthur yn rhywbeth poenus a chlaf- ychus i'r teimlad, ac hwyrach hefyd mewn rhai amgylchiadau ei wneuthur yn esgus dros beidio talu y sylw priodol i'r gwaith pwysig o oleuo a hyfforddi y meddwl : ond ?i hyny nid oes amheuaeth nad ydym ni mewn perygl yn y dyddiau hyn o fod yn methu yn y cyfeiriad cyferbyniol. Y mae *'hy fychan o gynghori yn yr Ysgol Sab- bothol. Dichon fod gormod o gynghori traidd ymhob man arall,—gcrmod o ^ynghori yn y bregeth, ac yn y cyfarfcd eglwysig, a rhy fychan o ddysgu ac egluro. Gyda'r Ysgol Sabbothol y mae yn wahanol. Diffyg mawr ynddi yn y dyddiau hyn ydyw I diffyg cynghori digon. Y mae yr Ysgol Sabbothol yn gyfieusdra digyffelyb i "ymanog i gariad a gweithredoedd da," a gellid yn haAvdd ei gwneuthur yn feithrinfa i bob rhinweddau sydd yn bur, yn sanctaidd, ac yn ganmoladwy. Mewn rhanau amaethyddol o Gymru, y mae y mis presenol yn adeg bwysig, ar gyfrif y ffeiriau cyflogi a gynhelir mewn gwahanol barthau o'r wlad, i'r rhai yr arfera miloedd o ieuenctyd gyrchu, ac yn y rhai y maent yn agored i lawer o demtas- iynau. Anfynych y cynhelir ffair o'r fath mewn cymydogaeth heb fod eglwysi Crist yn yr ardaloedd cylchynol yn cael gofid a phrofedigaeth mewn canlyniad. Mawr y drygau a ddygwyd oddiamgylch erioed gan y ffeiriau a'r cynulliadau peryglus hyn, ac y mae yn syndod y fath ymlyniad cyndyn wrth hen arferion o'r fath sydd yn parhau yn y wlad. Y feddyginiaeth yn ddiau a fyddai meithrin ysbryd darllen a blas ar lyfrau yn meddwl yr ieuenctyd. Byddai hyd yn nod hyny, heb son dim am effeith- iau uniongyrchol gwir grefydd, yn ddigon i beri iddynt deimlo yn rhy falch, yn rhy synwyrlawn, ac yn rhy uchelfrydig i neb eu gweled yn y cyfryw leoedd, llawer llai dybied fod yn bosibl iddynt deimlo unrhyw hyfrydwch a phleser yn y cyfryw wagedd. Ond yn y cyfamser, y mae yn amlwg mai un ddyledswydd y dylid gofalu am ei chyf- Uyni, a h^ny yn gvson ac yn ffyddlawn