Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

2. dfrmtu! i\ ûMW. EIN GWERSI YSGRYTHYROL. lYMUNEM alw sylw neillduol at y gwersi Ysgrythyrol sydd yn dechreu yn y rhiíyn hwn, gan obeithio y bydd i lawer o ddosbarthiadau yn y gwahanol ysgolion drwy y wlad ymgymeryd â hwy. Y mae y wers i'r plant yn sylfaenedig arLyfr Cyntaf Samuel, ac felly yn cymeryd i mewn ranau pwysig o hanesiaeth yr Hen Destament, tra y cymerir mantais hefyd ar yr amgylchiadau a gofnodir i gyfiwyno i'w sylw athrawiaeth- au a dyledswyddau Criitionogaeth mewn modd bywiog ac effeithiol. Gyda golwg ar y gwersi eraill ar Hanes bywyd ein Hiach- awdwr, canfyddir eu bod wedi eu trefnu ar gyfer pob Sabbath yn y mis, ac ymdrechir gwneyd hyny o hyn allan yn fisol. Fel y crybwyllasom ar glawr ein rhifyn diweddaf, yr oeddym unwaith yn bwriadu dilyn yr amgylchiadau yn y dreín yn yr hon y cof- nodir hwy gan yr Efengylydd Luc ; ond erbyn ystyried yn fanylach, yr ydym yn teimlo mai mwy manteisiol a fyddai cyfeirio at yr holl ddigwyddiadau hyd y gellir yn eu trefh amseryddol, ac felly bydd yn rhaid dyfynu yr hanes yn achlysurol o'r pedwar Efengylwr. Yr ydym yn hyderu os bydd i'r athrawon roddi eu dosbarthiadau i lafurio yn y gwersi hyn, y llwyddant i argraffu ar feddyliau eu disgyblion brif linellau bywyd yr Arglwydd Iesu Grist, yn gystal a chry- nodeb hefyd o'r hyn a ddysgid ganddo. Nid ydym yn proffesu rhoddi gwybodaeth gyflawn ynghylch y materion y cyfeirir atynt, gan y byddai hyny yn gwbl groes i'r amcan sydd genym mewn golwg, sef cynyrchu llafur ac ymchwiliad mewn athraw a disgybl yn ogystal. Teimlwn ein bod wedi gwneuthur yr hyn sydd fuddiol ac angenrheidiol ei wneuthur, os gallwn alw sylw at y prif anhawsderau, awgrymu y modd mwyaf naturiol a chywir i gyraedd eglurhad arnynt, a thrwy hyny gynyrchu yn meddyliau y rhai a'n dilynant yn y gwersi hyn syniad cywir am hynodrwydd a phwysigrwydd yr hanes, a pharch i'r Person mawr y mae mor hanfodol. i ni fod yn gwybod am dano yr hyn oll a ellir ei wybod. DYSGTJ ALLAJST. |AE i bob un o'r gwahanol gyfnodau yn mywyd dyn ei waith neillduol, ac os na wneir gwaith yn ei adeg ei hun ar yr oes fe fydd i fesur helaeth heb ei wneyd. Gwaith neillduol y plant ydyw trysori geiriau yn y cof. Y mae deall y gwr ieuanc yn fywiog i ymwneyd â gwir- ioneddau, a'r canol oed yn meddu addfed- rwydd barn i dynu casgliadau oddiwrthynt,. a'r hen yn gallu gwneyd defnydd ymarferol o honynt ; ond y mae cof y plentyn yn fwy gafaelgar, yn enwedig os rhoddir digon o waith iddo. Y cyfnod mwyaf manteisiol ar yr oes i "ddysgu allan" ydyw o wyth i