Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

****** d[nmuîl gr fept JSaitartM AT EIN DARLLENWYR. RTH ddywedyd fod nifer ein der- by-nwyr eisoes yn Saith Mil, yr ydym ar unwaith yn gwneyd yn afreidiol y drafferth o brofi fod swyddogion ac aelodau yr Ysgol Sabbothol yn teimlo ac yn cydnabod yr angen am Gylchgrawn at eu gwasanaeth. Hyfryd genym wrth gychwyn ydyw cael ar ddeall nad ydym wedi ym- gymeryd âg anturiaeth a ystyrir yn ddi- angenrhaid. Yn wir y mae lliaws mawr o gyfeillion wedi ysgrifenu atom i amlygu eu syndod na buasai rhywun wedi dwyn allan rywbeth o'r fath er's llawer o flynyddoedd, a bod yr Ysgol Sabbothol wedi cael cam dirfawr oblegid hyny. Nid yw y Wasg Gymreig hyd yn hyn, erioed wedi gwneyd ymgais uniongyrchol i wasanaethu y sefydl- iad daionus hwn, ac oni bai am ymdrechion ac ymroddiad personau gweithgar yn y gwahanol ardaloedd, y mae yn dra sicr na buasai gwedd mor lewyrchus i'w chanfod erbyn hyn ar yr Ysgol Sabbothol. Yr ydym yn teimlo fod y cyfeillion hyny hefyd, i raddau helaeth, yn cael eu gadael iddynt eu hunain, heb neb yn cymeryd ond ychydig sylw o honynt, ac heb dderbyn unrhyw gefnogaeth yn eu gwaith, nac unrhyw gy- mhellion i'w gyfiawni, ond yr awydd can- moladwy a deimlent yn eu mynwesau eu hunain am wneuthur daioni, a'r hyfrydwch cysurus sydd yn canlyn yn naturiol oddi- wrth hyny. Canfyddir nad oes odid un- rhyw sefydliad yn Nghymru yn-y dyddiau hyn, heb ganddo ryw gyfrwng i wneyd ei weithrediadau yn hysbys, ond yn unig yr Ysgol Sabbothol. Y mae yr holl drafferth a gymerir gyda hon, a'r holl lafur a gyn- yrchir trwyddi, yn cael ei adael heb prin son am danynt. Wrth geisio gwneyd i fyny y diffyg hwn yr ydym yn teimlo ein bod wedi gafael mewn gwaith mawr. Y mae gwneuthur y Cronicl yn ddefnyddiol ac yn wasanaethgar i bob Dosbarth, ac 1 bob ysgol ymhob Dosbarth, yn rhwym o fod yn waith mawr, ac yn waith nas gellir ei gyfiawni yn effeithiol heb lafur a diwydrwydd parhaus. Dichon hefyd ei fod ar hyn o bryd yn an- mhosibl, oblegid fod dull y gwahanol Ddos- barthiadau o gario y gwai.h ymlaen mor amrywiol, a'n trefniadau ninau eto heb eu perffeithio. Ar yr un pryd ni byddwn yn foddlawn heb allu cyraedd hyn. Y mae yn amlwg y byddwn yn dibynu llawer ar garedigrwydd a chysondeb ysgrifenyddion y Cyfarfodydd Ysgolion. Heb eu cydweith- rediad hwy nis gallwn wneuthur ond ychydig. Bydd o bwys mawr i ni gael pob ystadegau, cyfrifon, tafleni, &c, yn dal cysylltiad â gwaith y Dosbarthiadau, fel y gallom wneuthur ein cyhoeddiadyn drysor- fa o bob hysbysrwydd ynghylch yr holl ysgolion trwy y wlad yn gyffredinol. Yr ydym hefyd yn awyddus i gael gwybodaeth "brydlawn am faes llafur pob Dosbarth, fel y gallom drefnu, naill a'i math o agoriad iddo, neu ffurfio cwestiynau arno. Nid ydym trwy hyny yn dymuno ymyraeth yn y Cyf. I.