Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. AWST, 1867. Holiad. Pa'm na ddoech chwi, E—, i'r Ysgol Sabbothol megys cynt? Esgus. Yr wyf fi eisioes yn gystal darllenwr â'r goreu sydd acw, a gwell na'r rhan fwyaf. Ateb. Pa'm na ddoech i ddysgu eraill, ynte? Gan mai yn yr Ysgol Sabbothol y dysgasoch ddarllen eich hun, onid ydych dan ddyled i wneyd eich rhan dros y rhai ag ydynt yn awr yn yr un cyflwr o anwybodaeth ag y buoch eich hunan ynddo? H. Pa'm na ddoech chwi, M—, i'r Ysgol ? E. Nid wyf fi yn medru darllen, ac y mae cywilydd arnaf fi i feddwl bod yn nosparth y plant bach. A. Wel: peth tipyn yn chwith yw gweled lodes fawr fel chwi gyda'r rhai bach; ond nid oes dim help. Gwell hwyr na hwyrach. Cofiwch: mwy o lawer o gywilydd yw i chwi fod heb fedru darllen, na'ch bod i'ch gweled yn dysgu sillebu gyda phlant haner eich oedran. Ac fe aiff y cywilydd yn fwy o hyd i chwi o gadw ym mlaen yn eich tywyllwch, tra y symudech ef ymaith yn raddol wrth benderfyniad, doed a ddelo, i fýnu dysgu darllen. Mae Uawer, oes, llawer o'ch cenedl eich hun, y Cymry, wedi dysgu darllen eu Beiblau pan yn haner cant a thriugain mlwydd oed. Dysgent sillebu'r geiriau â'r gwydrau ar eu llygaid. Ond, O! y fath lawenydd oedd ganddynt! mor ysgawn y teimlent eu hysprydoedd am eu bod wedi ymdrechu ac wedi gorthrechu y rhwystrau ar eu ffordd. H. Atolwg, Mr. H—, un o fy nghymydogion goreu, beth all fod yn rhwystro dyn call a chyfrifol fel chwi rhag ein cynorthwyo gyda'r Ysgol? CYP. II. Y