Skip to main content

YR ATHRAW. GOEPHENAP, 1867. Parhad o'r Rhìf diweddaf. Y mae rhai pleidiau crefyddol yn hòni eu hod yn rhoi chwareu teg i reswrii yn ffurfiad eu crêd—ac felly y gwnant mewn rhai pethau; ond mewn rhyw un peth arall sefydlant eu crêd mor ddiysgog a direswm ar ystyr lythyrenol geiriau yr ysgrythyrau ag y gwnai Luther ar ei " Hwn yw fy nghorph" yn nadl Maiburg. Un arall a â heibio i ystyr lythyrenolyr ysgrythyrau mewn un peth ; rhydd chwareu teg i reswm gydagolwg ar liwnw; ond gyda golwg ar bob peth arall, cymer synwyr llythyrenol Crist a'i apostolion ynyr hyn a ddywedant yn rheol. A phan y dywed yr Apostol wrth y Corinthiaid, " Na ieuer chwi yn anghymarus gyda'r digred," gweithreda yn y presenol ym mhob amgylchiad ar y cynghor llythyrenol a roddodd yr Apostol i'r Corinthiaid mewn atngylchiadau gwa- hanol. Ni roddir lle yno i reswm i weithredu gyda golwg ary Corinthiaid, a phriodoldeb y cynghor iddynt hwy, ac iddynt hwy yn unig; o'r hyn lleiaf rheswm cyfyngedigiawn fyddaiyn sicr o ganfbd nad yw mor briodol yn ein hoes a'n gwlad ni. Plaid arall a ddadleua fod yn rhaid, ac yn wir angenrheidioi er iachawdwriaeth, i gyfranogi o'r ordinhad hòno a sefydlodd Crist pan y dywedodd, "Gwnewch hyn er coffa am danaf;" ymlynant mor fanwl wrth y geiriau a lefarodd yma ag y gwnai Calvin gyda " Hwn yw fy nghorph," ond mewn ffordd ac i ddyben gwahanol; ond pan y sefydla Crist ordinhad arall, trwyddweyd " Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur," O ! nid y w ystyr llythyrenol y geiriau o ddim cyp. n. t