Skip to main content

YR ATHRAW. MEHBFIN, 1867. Jmtum ac tenacem propositi virum.—Horace. Ganwyd gwrthddrych y bywgrafBad hwn ym Mhantlluest, plwyf Llanarth, Ceredigion, Gorph. 20, 1802. Efe oedd y ped- werydd plentyn, a'r ieuengaf, i David a Mary Joneso Glettwr. Yn y lle hwn buasai hynaíìaid ei dad yn trigianu am oesau digof gan neb, a meddianent ef, yn gystal â lleoedd eraill yn yr ardal, y rhai a arosant hyd heddyw yn eiddo'r teulu. Y brawd henaf oll a fu farw yn faban; y nesaf ato oedd y bardd o BwllfFein, yn nyffryn y Clettwr, awdwr y "Crwth," a bair yn hir i ddifyru a dyddanu edmygwyr cân. Bu y ddau yu yr ysgol, a Mr. John Jones nes yr ymadawai i'r coleg, gyda'r athraw clodfawr o Gastell-Hywel, am yr hwn y dywedir, "ei fod yn un o'r Lladinwyr a'r Groegwyr goreu yn ei ardal ar y pryd, os nad yn holl Gymru,—gwr y mae ei gof yn barchus gan rai o'r ysgolheigion goreu yng Nghymru ag sydd yn awr ar dir y byw." Yn y flwyddyn 1823 aeth i'r coleg yng Nghaer- fyrddin, lle yr oedd y Parchn. David Peter a D. Lewis Jones, (Clunadda,^ yn athrawon ar y pryd, ac ym mhlith ei gyd- fyfÿrwyr y Parchn. Isaac Harries, Wyddgrug; Owen Evans, Cefn; Dr. David Lloyd, Caeríÿrddin; Dr. William Davies, Ffrwdyfâl; a John Davies, Cwmaman, oll, ond yr olaf, yn awr wedi canu yn iach i'r ddaiar. Ymadawodd â'r coleg, wedi treulio yr amser arferol o bedair blynedd, yn 1827. Ni wyddom yn ddilys fanylion ei dreigladau am y blynyddoedd nesaf. Yn Awst, 1828, derbyniodd alwad i ymsefydlu yn CYF. II. Q