Skip to main content

YR ATHRAW. EBRILL, 1867. Jtat §ri%nran: Y FERCH NAD OEDD YN GALLU GWELED, NA CHLYWED, NA SIARAD, NAC AROGLI. ParJiad oyr Rhifyn diweddaf. Bu'n ymarfer fel yma am rai wythnosau, nes oedd ei geiríau wedi dyfod yn weddol luosog; yna ymgymerwyd â'r llwybr pwysig o ddysgu iddi y modd i arddangos y gwahanol lythyr- enau trwy offerynoliaeth y bysedd. Cyflawnodd ei gorchwyl yn fuan ac yn rhwydd, oblegyd yr oedd ei deall erbyn hyn yn dechreu gweithio yn gynorthwy i'w hathraw, ac yr oedd ei chynydd yn gyflym. Pau yr oedd wedi bod dri mis yn y sef- ydliad, dywed y report ei bod newydd ddysgu y Uythyrenau a arferir gan y mud a'r byddar, yr hyn a'i dygodd i fyd newydd o ryfeddodau. Yr oedd yn achos o hyfrydwch a syndod i weled mor gyflym, mor gywir, mor awyddus yr oedd yn myned yn y blaen â'i gwaith. Desgrifir y modd yr elid yn y blaen fel yma :—" Y mae ei hathraw yn rhoddi iddi ryw wrth- ddrych newydd,—er enghraifft, pencil; y mae'n gyntafyn gadael iddi wneuthur prawf arno â'i bysedd, a chael meddwl am ei ddefnydd; yna mae'n dysgu iddi'r ffordd i'w sillebu trwy wneuthur yr arwyddion o'r llythyrenau â'i bysedd ei hunan ; y mae'r plentyn yn gafaelu yn ei llaw, ac yn teimlo ei bysedd fel y byddo'r gwahanol lythyrenau yn cael eu ffurfio; y mae'n troi ei phen ychydig ar naill ochr, fel un yn gwrando'n ddwys; y mae ei gwefusau yn agored; braidd yr ymddengys yn anadlu, ac y mae ei gwyneb-pryd ar y cyntaf yn bryderus, yn raddol yo newid i wên, fel byddo'n amgyffred y wers. Y mae wedi'n CYF. II. k