Skip to main content

YR ATHRAW. ì. MAWRTH, 1867. Jùmra §i[idjgmatt: Y FERCH NAD OEDD YN GALLU GWELED, NA CHLYWED, NA SIARAD, NAC AROGLI. A ydym ni sydd mewn meddiant o bob porth o'r pump, a'r gallu genym trwy bob uu o houynt i gludo yn ol ac ym mlaen newyddion rhwng y byd allanol a byd mewnol y meddwl, erioed wedi meddwl dan faint o rwymedigaethau ydym i'n Tad tirion o'r nef am y rhagorfreintiau mawrion hyn ? A ydyw ein cydymdeimlad erioôd wedi ei ddeflFroi wrth feddwl am rai yn amddifad o'r bendithion yma ?* A ydym erioed pan ar ein taith rhwng meusydd blodeuog dyflrynoedd ffrwythlawn, ar hyd aeliau cribog hoff wlad y bryniau, yn ymyl ei gelltydd amryliw a thoreithiog, yn sŵn cyngherdd fawreddog y côr asgellogâ'u " mil o leisiau melusion," neu ar lan rhyw gornant fo'n bywiog lamu dros y creigiau, neu yn araf deithio drwy y glyn, "yn gwrandaw dwndwr bêr y dwr" mewn mwrmwr dis- taw'n sisial "y môr, y môr i mi"—a ydym erioed wedi raeddwl fod rhai yn y byd yn analluog i werthfawrogi y pethau yma? A ydytn wedi meddwl erioed pa newid fuasai ar ein cyflwr pe byddai gwynebau siriol y plant bach yn gwenu arnom a ninau heb lygaid i ganfod eu dysgleirdeb; eu chwerthin llawen yn adsain o'n hamgylch, a'n clustiau ninau mor ddistaw â'r bedd; ein calonau yn llawn o feddyliau dedwydd, ond heb * A ydym o'n llewndid wedi rhoddi rhywbeth erioed at yr "Asylum for the Deafand Dumb, yn Abertawe ? CYF. II. o