Skip to main content

YR ATHRAW, 3 . CHWEFROR, 1867. |pH çdfmttytáctt a gatüsír^h tflttüt Fel yr oedd dau gyd-fyfyriwr yn y Brif-ysgol gerllaw yn rhodio un prydnawn têg ym mis Ebrill ar lan yr afon Clyde, arweiniwyd hwy i'r ymddyddan canlynol. Dylid cofFhau mai wedi ei ffurfio yr oedd y gyfeillach rhyngddynt er y daethent yn adnabyddus â'u gilydd tua hanner y flwyddyn gyntaf o'u harosiad yn y Brif-ysgol. Nis gwyddent oblegyd hyn hanes foreuol y naill y llall, ac nid oeddynt erioed o'r blaen wedi disgyn ar y rhan hon o hynt eu bywyd. Gerard. A gawsoch chwi fanteision boreuol da? Penry. Anarferol dda; nid yn aml y cafodd neb well. G. Yr oedd eich rhieni yn gyfoethog, ynte ? P. Nac oeddynt. Yr oedd amgylchiadau fy rhieni, er uwch- law angen, yn eithaf isel, gan ein bod yn deulu lluosog, acnad oedd gan fy rhieni ddim i ddechreu eu byd ond yr hyn sy gan ffermwyr bychain yn gyffredin. G. Yr oedd genych ryw berthynas cefnog, ynte, i gymeryd atoch. P. Nac oedd ara a wn i. Os oedd, ni ddaeth yr un ym mlaen i arddel perthynas pan fuasai reitaf i mi wrthi. G. Yr ydych yn fy synu. Hi ddygwyddodd i chwi, efallai, el y gwnaeth i Samuel Taylor Coleridge pan yn llanc ys llawer dydd? P. Beth oedd hyny ? Yr wyf wedi anghofio^ os darllenais. G. O dyna oedd hyny. Pan oedd Coleridge yn llanc tua deuddeg oed, os wyf yn cofio'n dda, yn ysgol Christ's Hospital, yn gydysgolhaig â Charles Lamb a Leigh Hunt, yr oedd un CYP. II. d