Skip to main content

YR ATHRAW. IONAWR, 1887. IJttarMrlarift Mispraŵ. Gweithredu'r goreu erom ni Mae llaw'r Daioni dwyfol; A chariad pur yw trefnau Duw I ddynol ryw'n wastadol.—Iolo. Yn Litani Eglwys Loegr yr ydym yn darllen:—Oddiwrth fellt a thymmestl; oddiwrth blâ; haint y nodau a newyn; oddiwrth ryfel ac ymladd, ac oddiwrth angeu disyfyd, Gwared ni, Arglwydd daionus. Angeu disyfyd! Y mae angeu mor ddychrynllyd, am fod bywyd mor anwyl genym. Yr ydym mewn cymaint cariad â bywyd, ac mewn cymaint anwybodaeth am farwolaeth, fel nad ydym ni ddim yn alluog i osgoi'r teimlad o fraw pan fyddo'r cyfnewidiad mawr yn cymeryd lle. Angeu—y mae'r enw yn ddigon cynefin i ni; ond nid yr un peth yw sŵn y gair yn ein clustiau ar bob amser. Yr ydym yn ei glywed bob dydd, ac fe allai lawer gwaith yn y dydd. Clywn ef weithiau yn ddigon didaro, ond y mae bryd arall yn peri i guriadau'r galon fyned yn gyflymach. " Bu daear-gryn man a'r man, pryd hyn a'r pryd, ac fe gollòdd hyn a hyn eu bywydau." " Wel, wel, mae'n ddrwg gan i glywed,"—ond dyna'r cwbl. Nid oes dim cymaint o deimlad yn cael ei gyffroi â phe dywedai rhywun, " Fe dorodd John y drws nesa' 'i fýs yn y gwaith y bore yma." Nid yw'r pell a'r agos ddim yn cael yr un dylanwad. Teimlir llawer llai o ddyddordeb yn nhrigolion Timbuctoo nag yn CYF. II. A