Skip to main content

YR ATHRAW. TACHWEDD, 1866. ^pgá a êujáilmm £tamgat Ar achlysur blaenarol rhoddasom fraslun o fywyd Henry Scougal, awdwr " Bywyd Duw yn Enaid Dyn." Awn rhagom yn awr i sylwi yn fyr ar y llyfr ei hun. Gellir yn hy' ddweyd ei fod yn un o'r Hyfrau crefyddol y Hedaenwyd ac y darllenwyd mwyaf arnynt, a bod Hes annhraethol wedi ei effeithio drwy- ddo. Mae wedi cael derbyniad gan lu o wahanol bleidiau crefyddol; ac os oes llai o ddarllen arno yn awr nag a fu, ni chymerem ni hyny yn arwydd o welliant yn archwaeth gref- yddol ein cyd-wladwyr, ond i'r gwrthwyneb. Dyma lyfr syl- weddol, nid rhyw gysgod o beth yn darfod o dan eich dwylaw. Mae bwyd iachus ynddo, nid rhy w ddysgleidiau uchel-flas o'r fath y gwancir am danynt gan lawer o eneuau glythion cref- yddwyry wlad hon yn ein dyddiau ni. Nid tân a brwmstan a phoethwynt ystormus rhyw enwad neillduol a geir yma, ond llyfr wedi ei ysgrifenu mewn yspryd rhyddfrydig, ëang- Grist'nogol a gwir ymarferol. Wa feddylied neb fod rhyw ddogn cryf o wenwyn gwrth-grededd yn y llyfr; gan y cyd- nebydd yr enwog George Whitfield mai oddiwrth hwn y dysgodd ef gyntaf natur gwir Grist'nogaeth, a'r angenrheid- rwydd o'r adenedigaeth. Credai ef ei fod yn llyfr a dalai ei bwysau yn aur. Hysbysir ni yn mhellach yn rhagymad- rodd hynaws a synwyrlawn y cyfieithydd fod cymdeithas o wyr duwiol o wahanol enwadau ym mhlith yr Ymneillduwyr yn Llundain, a ymgorfforasai i daenu gwybodaeth grefyddol ym mhlith y tlodion, yn arfer rhoddi yn flynyddol amryw gopi'au o'r Hyfr hwn; a bod gwyr haelionus a duwiol o'r Eglwys Sefydledig yn " ystofi " yr un llyfr gyda llawer eraill ar y rhan fwyaf o weinidogion plwyfi bychain trwy Gymru. u 2