Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. 13 MEDI, 1866. 18 Dftçft. Mis Medi, mydr angenion ; Aeddfed oed ŷd ac aeron ; Gwayw fydd hiraeth fy nghalon ; Gwaetha' da drwy anudon ; Gwaetha' gwir gwarchae dynion : Traha a threisio'r gwirion A ddifa'r etifeddion ; Golwg Duw ar y tlodion.—Anedüin. Nid oes raid wrth un esponiad ar enw Cymreig y mis hwn. Pan ddechreuai y Rhufeiniaid eu blwyddyn ym Mawrth, hwn oedd eu seithfed mis, fel yr arwydda yr enw Lladin September (o septem, saith ; nid fel y mỳn rhai o septem ac imber, cawod). Yn ddiweddarach, sef ar ol dosraniad Julius Caesar o'r fiwyddyn, y nawfed mis oedd; eto cadwyd yr hen enw. Yr oedd yn gysegredig gan y Rhufeiniaid i Vulcan, duw y tân. Yr hen enw arno gan y Saxoniaid paganaidd oedd Halig-monath, y mis santaidd; oblegyd y gwnaent yn y mis hwn offrymu i'w duwiau Thor ac Odin, ac eraill o honynt. Ar ol hyn gelwid ef Harfast-monath, mis y medi neu'r cynhauaf, a hefyd Gerst- monath, mis y barlys, am mai dyma'r pryd y ceid y grawn hwn i ddiddosrwydd; a chnwd pwysig oedd hwn gan ein hynafíaid, megys genym ninau yn awr, oblegyd yddiodiachus a ddarllawent o hono. Tua'r 23ain o'r mis bydd yr haul yn arwydd y Fantol, yr hwn arwydd a enwir felly am fbd y dydd a'r nos y pryd hwn yn cydfantoli neu yn ogyhyd, fel pe wedi eu rhoi yn y glorian a'u rhanu yn gyfartal. Gelwir y llawn lloer a ddygwydd agosaf i'r amser y bydd yr haul yn arwydd y Fantol yn Lleuad o2