Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. MEHEFIN, 1866. ^mur êwúl î jágföi " Yn lle draÌH y cyfyd ffinydwydd, ac yn lle mieri y cyfyd myrt- wydd."—Isaiah lv. 13. Mab yn naturiol i ddyn edrych ym mlaen at amseroedd gwell. Mae wedi gwneyd hyn erioed, hyd y gwyddom ni. Ni cheir nac oes na chenedl, o'r mwyaf anwaraidd hyd y mwyaf gwareiddiedig, nad yw wedi bod yn gobeithio am ryw ddydd o waredigaeth ac o orfoledd. Amrywia yr hyn y gobeithir am dano yn ol graddau y wybodaeth a'r rhinwedd a ffynont ar y pryd. Goresgyn y llwythau cyfagos yw dymun- iad cenedl ryfelgar, awyddus i dra-arglwyddiaethu. Dysgwylia cenedl orthrymedig am gyfle i ysgwyd ymaith iau y gorth- rymwr. Hiraethwn ni y dydd hwn am weled yr amser pan y bo'r cwestiwn wedi ei ateb yn foddhaol pa lwybr yw y goreu i ddyrchafu dospeirth diraddiedig ein teyrnas. A'u golwg am wlad ac amser gwell yr aeth yr Israeliaid allan o'r Aifft, gan deithio am flynyddau yn yr anialwch. Pwnc mawr y genedl yn amser Isaiah oedd y dychweliad o gaethiwed Babylon. Gwlad well a chwenychai y Tadau Pererinol a adawsant y wlad hon yn 1620, ac a làniasant un diwrnod niwlog, wedi mordaith helbulus, ar Plymouth Rock, yn Lloegr Newydd, gan ddwyn yn eu dwylaw blanigyn têg Rhyddid i'w blànu ym mhriddellau cyfandir y Gorllewin pell. " Abraham a welodd fy nydd i, ac a lawenychodd: yr oedd ei obaith am ddyddiau gwell i wawrio ar y genedl, pan y buasai eilunaddoliaeth wedi darfod o'u plith, a phawb o honynt wedi k2