Skip to main content

YR ATHRAW. A MAI, 1866. ffe ftai. Mis Mai difrodus geilwad :* * Gyrwr ychain aredig. Clud clawdd i bob digariad : Llawen hen, diarcheniadf: t Troednoeth. Llafar côg ar lethr gwlad : Uchel adlais bytheuad: Hawdd cymmod lle bo cariad : Hyddail coed, hyfryd anllad : Nid hwyrach daw i'r farchnad Groen yr oen na chroen y ddafad.—Aneüein. Deillia yr enw Mai oddiwrth Maia, hen dduwies Rufeinig, yr hon a elwid hefyd Majesta ("y Fawreddog.") Bernir mai enwau eraill ar yr un dduwies oeddynt Tellus neu Terra Mater, ("y Ddaiar, ein mam ni oll,") Ops, (" Duwies Cyfoeth,") Ceres, (" Duwies Yd ac Amaeth,") a Bona Dea, (" Rhoddwr Rhoddion Daionus.") O dan yr enw olaf ei dydd gwyl oedd y laf o'r mis hwn, pan na chymerai neb ond benywod ran yn y defodau appwyntiedig. Galwai y Saxoniaid y mis hwn, fel y gwnaent y misoedd eraill, wrth enw llawn o ystyr: Thry- Meolce, neu Fis y Tri Godro, am fod tyfìant brâs y borfa ieuanc mor faethlawn ag i wneyd godro deirgwaith y dydd yn angen- rheidiol. Mis y misoedd ydyw hwn. Mae ei glod wedi bod yng ngenau pob oes. Egyr ychydig ar ddrysau y galon fwyaf crebachlyd, a gwnaiífy mwyaf di-awen ar brydiau i deimlo yn fardd. Hen dant cyfarwydd gan y prydyddion yw " meillion Mai;" a chyda'n cymydogion ni dderfydd byth y sôn am "the "merry month of May "—y gair "merry" gynt yn arwyddo b 2