Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. EBEILL, 1866. Jtlrai ^ìwnâm ar JÊgfrmt. Dywedir ddarfod i Xerxes brenin Persia, pan wedi gwneyd prawfobob pleser adnabyddus iddo, a laru arnynt oll, ofyn yn bryderus, " Pwy a ddyfeisia i mi bleser newydd?" Ein hateb ni iddo a fuasai " Darllen;" pleser na wyddai y teyrn, yn debyg, ond ychydig am dano, a phleser amgenach ddigon na llusgo byddinoedd amrosgo o slafiaid milwraidd ar ei ol o wlad i wlad i oresgyn a difrodi, lladd a llosgi. Erbyn heddyw y mae llyfrau wedi dyfod i raddau helaeth yn rhan anhebgorol o ddodrefn ein tai yn y wlad hon. Teimlir hyn gan ein gweithwyr deallus ac ymofyngar yn gymaint â chan neb pwy bynag. Barna llawer o'n ieuenctyd, trwy drugaredd, pan anturiant i'r sefyllfa briodasol, ei bod hi yn hytrach o fwy pwys i gael ychydig o seldau (shelves) llawn o lyfrau yn eu tai wrth ddechreu eu byd, na rhesi o seldau wedi eu gwisgo yn daclus â llestri o amryw liwiau, na ddef- nyddir efallai deirgwaith mewn oes. Gwelir llawer o'n pobl ieuainc yn rhwymo eu cyhoeddiadau misol yngyfrolau hylaw, ac yn pwrcasu geiriadur, esponiad, cyfrol neu ddwy o farddon- iaeth, grammadeg Cymraeg, grammadeg cerddorol, cyfrol neu ddwy ar hanesiaeth, a chyfrolau eraill yn ol yr archwaeth neillduol. Weithiau hefyd yn gymysgedig â gweithiau Cym- reig cawn lyfrau da a buddiol yn yr iaith Seisneg, megys, Evenings at Home, Prydyddwaith Cowper, rhai cyfrolau o Watts neu Channing, Uncle Torris Cabin, Smiles ar Self-Help —llyfr, gyda llaw, ag sydd grynodeb o'r ffeithiau mwyaf addysgiadol ac annogaethol i ieuenctyd. Mae byn oll fel y