Skip to main content

YR ATHRAW. MAWRTH, 1866. m gspfttadt a ptcíltîttt ©ipraclt % ^fraiílt. Mat. xxiii. 23.—"Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrith- wyr : canys yr ydych yn degymu y mintys, a'r anis, a'r cwmin, ac a adawsoch heibio y pethau trymach o'r gyfraith, barn, a thrugar- edd, a ffydd : rhaid oedd gwneuthur y pethau hyn, ac na adewid y lleill heibio." (Parhad o'r Rhifyn diweddaf.) Degymu y mintys, a'r anis, a'r cwmin hefyd yw gosod pwys anghymedrol, y pwys penaf, ar gred'òau o ha fath bynag. Na chamddealler. Gwerthfawr i hob un, gwerthfawr ddylai fod i bob un, ei olygiadau duwinyddol. Os wedi costio yn ddrud iddo, maent o werth cyfartal yn ei olwg. Dywedaf ym mhell- acb, fod y syniadau neillduol a ddalio un o bwys mawr iawn iddo: mae rhai syniadau â'u tuedd i helpu, eraill â'u tuedd i rwystro dyn i arwain bywyd gwell. Nid yw bosibl rhybuddio dynion yn rhy daer i ochelyd mabwysiadu unrhy w gredo yn unig am fod eraill yn gwneyd hyny, na'u hanog yn ormodol i chwilio drostynt eu hunain, ac ymofyn am y gwirionedd trwy bob moddiou yn eu cyrhaedd,—"i adeiladu tai iddynt eu hun- ain," a defnyddio geiriau tarawiadol Zschokke, ac nid ymfodd- loni ar fyw yn lletty dodrefnedig traddodiad." Buddiol ac angenrheidiol yw hyn oll. Nid oes neb yn ei bwj'll a wâd mai dyledswydd dyn yw nesu o radd i radd hyd mor agos ag y gallo at y gwirionedd perff'uith. Nesu o bell iawn y bydd yn