Skip to main content

YR ATHRAW. IONAWR, 1866. ^jfraátat. LLITH II. Yr oedd yr Afradlawn, er pob peth, yn wrthddrych sylw neillduol ei dad. Dyweded dynion yr hyn addywcdant, platit yr un Tad ydym ni oll; ac y mae yn perthyn i ryw gyfundraith heblaw cyfundraith y Beibl, fod rhai o'i blant yn fwy anwyl ganddo nag ereill. Ffwrdd, ífwrdd! WfFt byth i'r fath gredo, fod rhai o blant yr uu Tad trugarog, yn dragywyddol ddiam- modol, wedi cael eu harfaethu i gadwedigaeth, ac ereill o blant yr un Tad wedi cael eu damnio yn dragywyddol, ac yn ddiammodol, fel nad oes modd i'w hachub ! Rhoddweh gyfun- draith Tad yr Afradlawn mewn gweithrediad, ac olrheinier hi i'w ffynnonell, ac fe a'i ceir yn gyfundraith i achub pob dyn byw, ac nid fel cyfundraith Shôa o Geneva, fod dynion dan raid i ddyoddef cospedigaeth dragywyddol, er marwolaeth ac adgyfodiad ein Harglwydd bendigedig! Gwareder ni rliag Calfiniaeth gul Geneva, canys ni ŵyr y Beibl ddim am dani. Tad ydyw Tad yr Afradlawn ag sydd gwedi darparu'r pethau goreu ar ei gyfer, ac wedi rhoddi o'i dda iddo gyferbyn â chyrhaeddyd dyben mawr ei greadigaeth. Ddyn Afradlawn! Mae dy Dad yn llefaru wrthyt bob boreu, pan y mae'r wavvr yn tori, ac yn ymsaethu allan trwy borth y seren ddydd; mae dy Dad yn galw arnat pan y mae'r haul yn ei gerbyd dysglaer- wych yn esgyn goruwch caerau'r Dwyraindraw; y mae yn llefaru wrthyt pan y mae'r nos yn taflu ei lleni a'i mantellau duon dros lanerchau a broydd y ddaiar; mae yn Uefaru