Skip to main content

YR ATHRAW. TACHWEDD, 1865. ^típiaá tym djrât " A minnau, os dyrchefìr fi oddiar y ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun."—Ioan xii. 32. GAN Y PARCH. R. J. JONES, M.A., IIHAN I. Y mae yn ymddangos i mi yn beth tra rhyfedd, ac anespon- iadwy braidd, ein bod yn gallu darllen geiriau'r testun, a geiriau eraill cyffelyb iddynt, mor dawel a digyffro. Ond y mae geiriau'r ysgrythyr mor gynnefin genym fel nad ydym yn gallu canfod haner eu hynodrwydd. Y mae cynnefindra âg unrhyw wrthddrych fel pe bai yn analluogi'r teimlad i ganfod. Y mae'r Steam Engine neu'r Telegraph yn tynu mwy o'n sylw na'r Lloer neu'r Haul. Y mae byddin o filwyr yn debyg o ddylan- wadu mwy ar deimladau y rhan amlaf o honom nag ymddan- gosiad y ffurfafen yn ei dysgleirdeb a'i gogoniant mwyaf. Ac yn rhy fynych y mae rhyw rigwm o bennill dẁl yn llwyddo i ddal ein sylw yn well nag ymadroddion hynotaf yr ysgrythyr. Y mae cynnefindra fel pe bai yn tafiu rhyw oerdra anwydog dros yr hyn a ddylai appelio'n fwyaf nerthol at ein deall a'a teimlad. Sut arall y gallwn ni gyfrif am ein bod mor ddi- gyffro yn sŵn geiriau'r Iesu, pan y gallwn ddisgwyl iddynt gynhyrfu'r teimladau fel y cynhyrfa'r gwyntoedd y môr? Nid yw ei eiriau rhyfedd yn peri fawr syndod i neb; nid oes braidd neb yn sylwi ar ei ymhoniadau hynod. " A minnau, os dyrchefir fi,"—nid os, nid oes un os nac un ammheuaeth ar y pwngc;—"a minnau pan ddyrchefir fi oddiar y ddaear." Y