Skip to main content

YR ATHRAW. HYDREF, 1865. ^ÌIU ẁmuil Ar lechwedd meillionog uwchlaw un ot afonydd hychain a lifant i'r Teifi, safai tyddyndy clyd a glandeg yr olwg, o'r enw Penlan. Yma, ar ol ymuno o honynt mewn glan ystàd priod- as, yr aethai Rhys Davies a Sarah Jenkins i drigianu. Yr oeddynt eill dau yn ieuainc, heb weled ond ychydig o flynydd- oedd dros yr ugain. Cawsent y fath addysg bwrpasol a syl- weddol ag a dderbynir gan lawer o feibion a merched Cered- igion, yn enwedìg yn y rhandir a ymestyna rhwng Teifi a'r môr, yng nghanol-barth y sîr. Medrant yr iaith Seisneg yn lleddda; derbynientbapur Seisneg bob wythnos, ynghyd âdau gyhoeddiad misol, un Cymreig ac un Seisneg. Yr oeddynt yn weddol eu hamgylchiadau, yn gymmaint â bod i Sarah waddol bychan, a bod tad Rhys yn ífermwr cefnog, a Rhys ei hun yn ddyn ieuanc o ddyfais lew, synwyr cryf, ac o arferion ymröus a chynil. Cadwai Sarah ei thŷ yn làn—mor loew â'r swllt, ys dywedai ei mam-yng-nghyfraith. Nid ar ddydd Sadwrn yn unig y meddyliai hi am lanhau ei thý. Cai y llwch yn y gegin ac yn y parlwr hefyd ei symud yn Uawer amlach nag unwaith bob wythnos. Mynai hi awyr ffres yn feunyddiol i bob ystafell, yn neillduol i'r ystafelloedd cysgu. Ni hoeliai y ffenestri i lawr yn dỳn, fel y gwna rhai, dan yr esgus o ofn lladron. Credai hi mai y lleidr gwaethafym mhob teulu yw afiechyd. Mawr brisiai y bendithion hyny a alwai hen wein- idog dysgedig a pharchus yn y sîr, (yr hwn, ysywaeth, fel y rhan fwyaf o'i gyd-lafurwyr ag oeddynt gyfoedion iddo, sydd er ys blynyddoedd rai wedi tewi yn yr angau), yn roddion de-