Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. MEDI, 1865. Gwlad y cloddiau moelion a'r cloddiau cerig yw rhan fawr o Geredigion. Nid ani ei bod na rhy uchel na rhy ddiffrwyth i goed dyfu, ond yn debyg am na chawsant erioed gynyg. Yr arferiad sydd wedi ffynu yn gyffredin yw gadael i goed gy- meryd eu siawns am dyfu lle y tyfent o honynt eu hunain; neu, a defnyddio geiriau hen Ysgotwr, y rhai a grybwyllir gan Dr. Livingstone, " lle y gosododd y Creawdwr ei hun hwynt ar y cyntaf." Pan oedd y Dr. yn llanc ieuanc yn dechreu astudio daiareg, synid a blinid ef yn fawr gau y fossils* y deuai o liyd iddynt mewn cerig a chreigiau, a gofynodd i hen wr o gymydog pa fodd y daethent yno? " 'Machgen anwyl i,"atebai'r hen wr yn dra difrifol, " paid â ffwdanu dy ben ynghylch y fath grwest- iynau; Duw ei hun a'u gosododd yna ar y dechreu." Felly, hyd yn ddiweddar, y rhanau o'r sîr hon lle y tyfai coed oeddynt y manau lle y gosodasai'r Creawdwr hwynt ar y cyntaf. Mae diwygiad yn hyn, a diwygiad mawr; a gobeithio, ar ragor nag un cyfrif, mai rhagddo yr â. Mae y diffyg hwn wedi bod yn achlysur i ddosparth o wasan- aeth-ddynion, nas gwyr llawer rhan o'n gwlad am danynt ond drwy hanes. Tebyg fod cyffelyb ddosparth i'w gael mewn rhai rhanau o'n siroedd eraill, a dichon fod yr arferion perthynol i'r dosparth yno yn amrywio rhyw gymaint; ond bydd a fyno'r sylwadau hyn â bugeiliad Sìr Aberteifi. Nid y bugeiliaid cyf- lawn faint ar y mynyddoedd, y rhai a ddilynant eu swydd trwy * Fossiìs ydynt sylweddau a gloddir allan o'r ddaear, megys plan- higion, cregyn, esgyrn, a phethau eraill, wedi troi yn gerig.