Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. 10. GORPHENAF, 1904. [Rhif 115. HWIANGERDD Y WEDDW. ii LJ WI hwian, fy maban, gwyn fyd na bawn i J Mor ysgafn fy mron y nos hon ag wyt ti; Hwi hwian yn awr, dos i gysgu heb gân, Mae canu dy fam wedi'i lethu yn lân ; Mae'n haws colli dagrau Yn rhwydd ar dy ruddiau Wrth blygu fel yma dros ymyl dy gryd A gweled dy dad yn dy wyneb o hyd. "Hwi hwian, fy nhlos, y mae'n dda genyf fi Na wyddost ti ddim mai amddifad wyt ti; Ti doret dy galon, anwylyd ddi-nam, Pe gwyddet mai gweddw agored i gam Yw'r hon sy'n dy suo Yn unig iawn heno, Heb dad yn y gadair wrth ochr y tân, Heb ly w ar y cefnfor, heb gyngor, heb gân. "Hwi hwian, y fwyn, os cei gadw dy fam, Ti'i cei hi yn gysgod rhag aml i gam, Mae ysbryd dy dad yn y nefoedd yn awr Yn erfyn ein llwydd gyda Llywydd y llawr— Yn erfyn dy fami Yn fwyn i dy fagu— Dy fagu fel angel dan awel y nef, Hwi hwian, fe'n gwelir cyn hir gydag ef. " Hwi hwian, mae'r gwynt y tu allan yn oer, A thrwchus yw'r llwydrew dan lewyrch y lloer ; Ond acw, fy Ngwen, heb un niwlen na nos, I ni y ddwy dlawd y mae Canaan sydd dlos, Am hono breuddwydiwn Pan heno yr hunwn, O ! na cbaem fyn'd yno i rodio yn rhydd— Myn'd yno ar ganol breuddwydio am ddydd." Penar,