Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

■*£ ta yr fs0Dl ^al. &*■ Cyf. 14.] GORPHENAF, 1908. [Rhif 163. CYNGOR OLAF FY NHAD. Mi gefais gyngor gan fy nhad, Pan ar ei wely marw; 'Rwy'n tybio 'heddyw clywaf swn Y sibrwd anwyl hwnw: A dyna oedd ei gynwye ef,— Mae'n werth y nef yn gyflawn,— Am imi fod yn fachgen da, A rhodio llwybrau uniawn. 'Rwyf wedi cael cyngorion da Gan amryw wedi hyn: 'Rwy'n prisio hwn yn fwy na'r oll— Fe ddaeth o niwl y glyn: 'Roedd gwlit'h y nefoedd arno ef, Er gwaethaf byd a'i bwn; 'Rwy'n clywed cariad ealon tad Yn mhob rhyw sill o hwn. Mae llawer 0 flynyddau maith Er pan y rhoddwyd ef; Ond eto pery yn ei nerth, Fel geiriau pur y nef; Fe erys 'hwn tra byddwyf mwy, Yn berl o arall wlad; Fe'm ceidw'n ddiogei yn y farn— Hoff gyngor mawr fy nhad. Anwylaf frawddeg ydoedd hon, Oddiar ei wefus brudd; Fe drodd y noaon dywell gyrnt I mi yn oleu ddydd: Fy Nuw! rho nerth i minau mwy, Er pechod, poen, a phla, I gario'r cyngor hwn i maes, Trwy fyw yn fachgen da. íámmanford. Josbî-h Walters.