Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

*ä ätaett jjr ÎJa^ol jfotl. R+- Cyf. 6. MAWRTH, 1900. [Rhif 63. Y DDEILEN GRIN. BRUDD, wywedig ddeilen grin, Tremia'r marwol yn dy lun ; Gyneu meddet ddwyrudd iach Ar y brigyn, ddeilen fach. Bu yr haf a'i awel der Yn taro tant dy awel ber ; Tithau'n dawnsio'n ysgafn droed Yn nghyngerddau hwyr y coed. Gwenaist lawer ar yr haul— Gwenai yntau bob yn ail ; Cyfnewidiol yw dy wedd, Edrych wnei ar gloddio'th fedd. Llawer ymdrech daer wnest ti I lynu wrth y brigyn fry ; Colli'th afael wnest, er hyn, Er ymdrechu dal mor dyn Wedi i Hydref wywo'th wawr, Mor naturiol dest i lawr! Er it' ddal holl droion ha', Disgyn wnest ar fynwes cbwa. Ddeilen fechan, dan fy nhroed, . Buost benaf dlysni'r coed ; Heddyw gwrthodedig un Yw dy gyflwr, ddeilen grin. Mor ddisylw yr a dyn Heibio i ti, ddeilen grin ! Caf y frawddeg ar dy wedd Mai " Tir anghof ydyw'r bedrl." Ymollyngaf inau'r byd, " Wedi marw "—dyna i gyd, Fydd y frawddeg uwch y fan Lle gorphwysa'm marwol ran. Ddeilen fechan gorphwys 'nawr : Angeu gorphwys, sy'n dy wawr ; Darlun tlws o mi fy hun A gaf ynot, ddeilen grin. Cwmogwy. Gwintfryn Jones.