Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

•+8£mn ür Ifsjjol ^ttl. B+- Cyf. 5.]____________AWST, 1899.___________[Rhif 56. Y LILI. " _ BLENTYN bychan, edrych di Ar y lili; Gwylaidd blygu pen mae hi, Dyner lili ; Gwelodd Iesu hon yn wen, Ger ei fron yn plygu'i phen ; Ac fe ddysgodd wers o'r nen, Drwy y lili; Blentyn bychan, drwy dy oes, Dysga dithau wylaidd foes, Gan y lili. Blentyn bychan, gwel y gwlith Ar y lili ; Perlio mae rhwng blodau brith, Brydferth lili; Mae pob gwlithyn yna sy' O dan lewyrch heulwen fry, Yn ymffurfio'n goron gu Ar y lili ; Blentyn bychan, boed heb rith Dy foesau da, fel disglaer wlith Ar y lili. Arogl per a hyfryd iawn Ddyry'r lili, Yn y maes ar hafaidd nawn, Serchog lili; Cyn ei gwel'd dan gysgod clyd, Lle blodeua'n deg ei phryd, Arogl mwyn a dd'wed o hyd Lle mae'r lili; Blentyn bychan, y mae swyn Mewn enw da, fel arogl mwyn Gan y lili. Blentyn bychan, yn y Hyn Gwel y lili; Yno tyf fel rhosyn gwyn, Brydferth lili; Pan y cesglir hon o'r lli', Chwala'r dwr o'i mynwes hi, Fel rhyw berlau cain eu bri, Perlau'r lili; Blentyn bychan, gwyn dy liw, Gad o'th ol rinweddau gwiw Fel y lili. IORWERTH GLAN AlED.