Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. 5.] MAI, 1899. [Rhif 53. GADAEL CARTREF. MEWN cym'dogaeth dangnefeddus Safai bwthyn glan ei bryd, Dan ael gwridog fryn rhamantus Yn nhawelwch cilfach glyd ; Safai gwraig y bwthyn hyfryd Ary rhiniog un prydnawn, A phryderon blinion bywyd Wedi dryllio'i chalon lawn. Gwelodd gychwyn yn y borau Un o'i phlant yn lan ei bryd, I wynebu'r canlyniadau Wnaent ei aros yn y byd ; Cerddai ef i ffwrdd yn fyrbwyll Draw at lawer croes a cham, Tra'r oedd ei ddyfodol tywyll Yn rhoi niwl dros bryd ei fam. Mawrhai'r daith o gylch plentyndod, Teimlai ddeddfau'r cylch yn gaeth, Pryd nad oedd ond myn'd heb wybod I gaethiwed llawer gwaeth ; Cofiai'r fam y galed frwydr Oedd o'i flaen, a'r croesau fyrdd ; Cofiai am y ceryg rhwystr Oedd guddiedig ar ei ffyrdd. Ai yn mlaen, yn mlaen, heb feddwl Fod yr un dymestlog awr, Yn ei aros gyda'i thrwbwl Ar ei yrfa lon ei gwawr ; Ond fe wyddai'r fam drwy brofiad Beth oedd tynu'n groes i'r graen, Ac anfonai gryf ddymuniad Am i'r Nefoedd fyn'd o'i flaen. Trebor Aled,