Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

■+Ä %mn çr f sgal ^nl. 8+- —--------------------------------_______________________ Cyf. 4.] GORPHENAF, 1898. [Rhif 43. DWEYD "GWNAF"YN DDRWG: DWEYD "GWNAF" YN DDA. ER nad yw "Gwnaf" ond gair bach byr, Mae iddo ystyr llawn, Gall ìod yn ddrwg, gall fod yn dda, O hyd mae'n bwysig iawn. Ar íwybrau'r drwg, mae " Gwnaf" o hyd Yn llawn o bleser gau, Ar lwybrau'r da daw " Gwnaf" bob pryd A'r pleser sy'n parhau. Ar "Gwnaf "y drwg y diafol sydd 0 hyd yn gwenu'n llon, Ond ei fradwrus wen ryw ddydd A dry yn dan i'r fron. Mae " da " a " drwg " yn chwareu'u rhan Tu fewn i " Gwnaf " o hyd ; Mae Duw a Satan ymhob man <#£& Yn rhoi ar hwn eu bryd. wÊR Mae dwedyd " Gwnaf'y "drwg " o hyd Yn digio Duw y nef; Mae dwedyd " Gwnaf " y " da " bob pryd Yn swyno'i galon Ef. Fe leinw'r diafol " Gwnaf" y " drwg " Ag uffern gyda'i phoen ; I " Gwnaf" y " da " Duw'r nef a ddwg Nefolaidd hedd a hoen. "Dweyd 'Gwnaf' yn ddrwg; dweyd ' Gwnaf' yn dda," Yw iaith y ddwyfol lef; Mae'n borth i aua' ac i ha' I uffern ac i'r Nef. Sul, Mai 29ain, 1898. Carodyn.