Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cy/. ä] RHAGFYR, 1897. [Rhif 36. " YR YSGOL SABBOTHOL." [BUDDUGOL.] URDDASOL sefydliad yw'r Ysgol Sabbothol, Ei baner gyfodir i afael y gwynt, Ac arni mae arwydd yr ymdrech fuddugol Ar wag ofergoeliaeth yr hen amser gynt; Bu Cymru am oesoedd yn mroydd anwybodaeth, Ond bellach, dysgeidiaeth oleuodd y wlad, Ei llewyrch symudodd dywyllwch Pabyddiaeth, Pob twyll a ddinoethwyd trwy'i haddysg yn rhad. Meithrinfa arddunol yw'r Ysgol Sabbothol Yn nwyfol athrawiaeth yr Iesu a'i groes,— Yr hwn ddaeth i'r ddaear o'r hardd drigfa nefol Dros fyd pechadurus i farw dan loes ; I'r Ysgol mae'r lluoedd bob Sabbath yn tyru I ddarllen a cheisio iawn ddeall gair Duw ; Pob gradd a phob oedran wna hon egwyddori Pa fodd mae ymlwybro tra yma yn byw. Llawforwyn yr Eglwys yw'r Ysgol Sabbothol I ddwyn yr Efengyl 'n agosach at ddyn ; Argraffa wirionedd y gyfrol ysbrydol Yn ddyfnach ar feddwl a chalon pob un ; Gwehilion cymdeithas o ffosydd dwfn llygredd Mae'n osod i sefyll yn syth ar eu traed ; Cyfeiria'u golygon at orsedd trugaredd A'r cymod dros bechod ddaeth trwy ddwyfol waed. Brenines pob Ysgol yw'r Ysgol Sabbothol, Disgleirdeb ei choron yw crefydd y groes ; Banerau uniondeb ysgydwa'n wastadol Uwch teyrnas gwirionedd yr Ior yn mhob oes ; Ymdrechion ei phleidwyr a gânt eu coroni Bob un a bendithion cyfoethog y nef; Yn rhinwedd ei haddysg bydd torf ddirifedi Yn canu " Hosanna am byth iddo Ef." Llandybie. Richard Mcrgan