Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. 3.] TACHWEDD, 1897. [Rhif 35. DYWED NA. Oj BLENTYN mwyn ac hardd dy fryd, , Ysgafn dy droed—diniwed dy wrid ; Arlun o'r nef mewn anwir fyd, I awgrym y drwg ar bob pryd, Taro dy droed a dywed, Na. O! blentyn tlws—ar ddechreu'th waith, Duw'n unig wyr droellau'th daith ; Bydded yn fyr, neu flwyddi maith, Bydd cofio hyn yn osgoi craith, Taro dy droed a dywed, Na. O! blentyn glan—eilun dy fam, Dieithr fron i dwyll a cham, Daw brad ryw dro mewn gwisg ddinam, Cynygia 'i llaw—ond O ! rho lam, Taro dy droed a dywed, Na. O ! blentyn gwan—daw'r temtiwr erch Mewn mantell wen ac ymffurf derch, Cynygia ros a blodau serch, Ond marwol y'nt, hoff fab a merch— Taro dy droed a dywed, Na. O ! blentyn hardd—mae marwol bryf Mewn celwydd hyll, mewn cabledd hyf, Mewn llwon ffol a drwg dirif, Bwytant dy nerth, ond bydd di'n gryf, Taro dy droed a dywed, Na. O ! blentyn bach—paid gwneud y drwg, Pwy bynag gais—gwell yw eugwg Na gwg dy Dduw a'i ddamniol fwg; Bydd byth yn ddewr—anrhydedd ddwg, Taro dy droed a dywed, Na. Treorci, Parch. W. Morris (Rhosynog).